Cyngor Llyfrau Cymru yn pryderu am swyddi yn y diwydiant
- Cyhoeddwyd
Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau, Elwyn Jones, sy'n pryderu am effaith toriadau ar swyddi
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn bryderus y gall swyddi gael eu colli o fewn y diwydiant cyhoeddi.
Daw rhybudd y Prif Weithredwr, Elwyn Jones, ar ôl i Lywodraeth Cymru benderfynu gwneud toriad o 10.6% i gyllideb y corff - £374,000 mewn 12 mis.
Mae'r Cyngor Llyfrau yn cefnogi 300 o gyhoeddiadau mewn blwyddyn - 200 yn Gymraeg ac 100 yn Saesneg.
"'Dan ni'n amcangyfrif bod yna ryw 1,000 yn cael eu cyflogi o fewn y diwydiant yng Nghymru yn y ddwy iaith," meddai Mr Jones.
"Mae hynny'n cynnwys pobl sy'n gweithio yn y gweisg, bod nhw'n olygyddion, yn ddarlunwyr, yn argraffwyr ac yn y blaen.
"Mae yna nifer fawr o lyfrwerthwyr yng Nghymru ac os oes yna lai o lyfrau yn cael eu cynhyrchu, mi fydd yna wasgfa wedyn ar yr adnoddau sydd ei angen ar gyfer hynny a hynny'n beryg yn cael effaith wedyn ar swyddi."
Bydd cyhoeddwyr yn cyfarfod gydag aelodau cynulliad ym Mae Caerdydd ddydd Mercher nesa, gyda'r awdur, Jon Gower, yn cadeirio hwnnw.
Mae Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru, sy'n cynrychioli cyhoeddwyr llyfrau Cymreig, wedi beirniadu penderfyniad y llywodraeth i gwtogi cyllideb y Cyngor Llyfrau.
Dywedodd llefarydd ar eu rhan fis diwethaf: "Mae'r diwydiant llyfrau eisoes wedi dioddef toriadau sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf ac rydym yn credu y bydd yr argymhelliad yma yn gwneud difrod tymor hir i'r diwydiant, gan beryglu cynnyrch, cyflogaeth a sgiliau."