elwyn
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cyngor Llyfrau: Pryder am swyddi yn y diwydiant cyhoeddi

15 Ionawr 2016 Diweddarwyd 09:27 GMT

Mae Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, Elwyn Jones, yn dweud y gallai toriadau i gyllid y corff gael effaith ar swyddi yn y diwydiant cyhoeddi.

Mae'r cyngor yn wynebu toriad o 10.6% - neu £374,000 - i'w cyllideb.

Yn ôl Mr Jones, mae tua 1,000 o bobl yn gweithio yn y diwydiant yng Nghymru.