Cyllideb: Plaid Cymru'n cynnig dêl i'r llywodraeth Lafur
- Cyhoeddwyd

Mae Plaid Cymru yn barod i gefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ei chyllideb, os bydd cytundeb ar gyllido ardaloedd gwledig.
Dywedodd llefarydd llywodraeth leol y blaid, Simon Thomas, ei fod yn annheg gadael cynghorau "mewn limbo" ar gyfer y flwyddyn ariannol nesa'.
Does gan Lafur ddim mwyafrif ym Mae Caerdydd ac mae hi angen cefnogaeth un blaid arall er mwyn i'r cynlluniau fynd yn eu blaen.
Ond mae'r gwrthbleidiau yn anghytuno gyda'r cynigion a fyddai'n golygu mwy o doriad, o ran canran, i gynghorau gwledig yn eu grantiau.
'Annhegwch'
Byddai plaid Leanne Wood yn cefnogi cynllun o roi cap ar doriadau i grantiau cynghorau ar 2.5%.
"Mae Plaid Cymru yn barod i ganiatáu i'r setliad llywodraeth leol basio ar yr amod bod y llywodraeth yn mynd i'r afael â'r annhegwch presennol," meddai Mr Thomas.
Mae Powys, Ceredigion, Sir Fynwy a Phenfro yn wynebu toriadau mwy, gyda Phowys i gael cwtogiad o 4.1%.
Daw rhan fwyaf o arian y cynghorau gan Lywodraeth Cymru, gyda'r gweddill yn cael ei godi gan dreth cyngor a thaliadau eraill.