Agor arddangosfa i gofio 35,000 o filwyr Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae arddangosfa i gofio 35,000 o filwyr gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn agor ddydd Sadwrn.
Mae'r arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn adrodd hanes y Llyfr Cofio Cenedlaethol, a'r miloedd o ddynion a merched sydd a'u henwau ynddo.
Bydd y llyfr yn cael ei arddangos yn ogystal a fersiwn digidol newydd.
Mae'r unigolion sydd yn y llyfr wedi eu rhestru fesul catrawd a bataliwn, ochr yn ochr ag enwau'r rhai wnaeth oroesi.
Ond mae'r arddangosfa hefyd yn ceisio ymchwilio i themâu pellach fel rhan o gynllun pedair blynedd, Cymru Dros Heddwch.
Yn sgil yr arddangosfa, mae'r llyfrgell yn awyddus i ddysgu mwy am rai sydd wedi eu henwi yn y llyfr.
Un o'r rhain yw'r Preifat Trevor Lewis, aelod o Gorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin.
Ar ôl cael ei eni yn Aberystwyth a mynd i Ysgol y Sir ac Ysgol Ardwyn, cafodd ei benodi'n llyfrgellydd dan hyfforddiant yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ym mis Awst 1912.
Ar 27 Hydref 1915 ymunodd â Chorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin. Cafodd ei anafu'n wael yn Ffrainc ar 8 Awst 1916 a bu farw ar 20 Medi yn ugain oed.
Dywedodd Linda Tomos, Llyfrgellydd Cenedlaethol Llyfrgell Genedlaethol Cymru: "Rwyf yn falch iawn fod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi medru cefnogi'r arddangosfa a'r gwaith arloesol o ddigido Llyfr y Cofio.
"Bydd y ddau yn sicrhau ein bod yn parhau i anrhydeddu'r aberth i'r rhai sydd wedi eu henwi yn y Llyfr ac ail ddweud eu straeon unigol."