Cwpan Pencampwyr Ewrop: Gweilch 21-13 Clermont Auvergne
- Cyhoeddwyd

Sgoriodd Wesley Fofana wedi chwe munud o chwarae
Daeth Sam Davies oddi ar y fainc i arwain y Gweilch i fuddugoliaeth dros Clermont Auvergne sy'n eu rhoi ar frig grŵp 2 yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop.
Daeth 15 pwynt o droed y maswr yn yr ail hanner i roi'r Gweilch gam yn nes at y rownd y chwarteri.
Roedd Clermont yn rheoli'r gêm yn gynnar, wrth i Wesley Fofana sgorio cais wedi chwe munud o chwarae.
Yr ymwelwyr wnaeth barhau i roi pwysau ar y Gweilch, gan sicrhau mantais o 6-13 erbyn yr egwyl.
Ond daeth y Gweilch allan yn gryf yn yr ail hanner ac roedd cicio cywir Davies yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth wedi chwarae da.