Cwpan Her Ewrop: Dreigiau 31-18 Castres
- Cyhoeddwyd

Ciciodd y maswr Jason Tovey bedwar trosiad a chic gosb i'r Dreigiau
Mae'r Dreigiau wedi diogelu eu mantais yng ngrŵp 2 o'r Cwpan Her gyda buddugoliaeth dros Castres.
Sgoriodd Hallam Amos o fewn munud wrth i geisiau eraill gan Nic Cudd a Lewis Evans roi'r Dreigiau ar y blaen o 24-10 erbyn yr egwyl.
Ond roedd hi'n anoddach i'r Dreigiau yn yr ail hanner er i Alexandre Bias gael cerdyn coch wedi awr o chwarae.
Daeth y cais olaf gan Ashton Hewitt i sicrhau'r fuddugoliaeth.