Huw Lewis yn rhoi'r gorau i fod yn AC
- Cyhoeddwyd

Mae'r Gweinidog Addysg Huw Lewis wedi cyhoeddi na fydd yn sefyll yn Etholiad y Cynulliad ym mis mai.
Mae Mr Lewis wedi cynrychioli etholaeth Merthyr Tudful a Rhymni ers etholiadau cyntaf y Cynulliad yn 1999.
Mewn cyfarfod o'r blaid Lafur yn ei etholaeth nos Wener, fe ddywedodd ei fod am dreulio mwy o amser gyda'i deulu.
Cafodd ei benodi'n weinidog addysg yn dilyn ymddiswyddiad Leighton Andrews yn 2013.
Cyn hynny bu'n weinidog diwylliant, ac fe safodd yn ras arweinyddiaeth Llafur Cymru yn 2009.
'Amser i symud ymlaen'
Dywedodd Mr Lewis: "Mae gwasanaethu'r gymuned lle cefais fy magu wedi bod yn anrhydedd ac yn fraint, ond mae'r amser yn iawn i symud ymlaen.
"Mae gen i ddyled fawr i bobl Merthyr Tudful a Rhymni... ond does dim byd yn para am byth.
"Cefais fy ethol yn AC yn 35 oed ac rwy'n teimlo bod yr amser yn iawn i mi ac i'r etholaeth i mi symud ymlaen.
"Hoffwn ddiolch i Carwyn Jones am y cyfle i fod yn rhan o'i Lywodraeth mewn sawl rôl - pob un yn bleser mewn ffyrdd gwahanol. Mae'n dysteb i arweiniad a chwrteisi Carwyn nad oedd ganddo broblem gyda mi yn bod yn rhan o'i lywodraeth wedi'r ras arweinyddol yn 2009."
'Dymuno'r gorau iddo'
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: "Mae gan Huw y nodwedd brin i wleidydd modern o fod yn galon-agored... bob tro'n brwydro'n galed am yr hyn y mae'n ei gredu."
Yn fuan wedi'r cyhoeddiad dywedodd Owen Hathway, swyddog polisi undeb athrawon yr NUT yng Nghymru mewn trydar:
"Rhaid i mi ddweud mod i wedi credu bod Huw Lewis yn adeiladol iawn wrth weithio gydag ef fel gweinidog addysg. Rwy'n synnu ei fod yn sefyll o'r neilltu, ond yn dymuno'r gorau iddo."
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: "Mae ein safbwyntiau'n wahanol ond mae Huw Lewis yn un o'r rhai da. Bydd colled amdano. Gallaf ond dymuno'r gorau iddo am yr hyn sydd o'i flaen wedi Mai."