Gwasanaethau llygaid newydd yn Sir Benfro a Cheredigion
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i wasanaethau gofal llygaid newydd yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, leihau amseroedd teithio i gannoedd o gleifion.
Ar hyn o bryd, mae pobl sydd â'r cyflwr dirywiol AMD gwlyb - cyflwr sy'n gysylltiedig ag oedran unigolyn, sy'n byw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn gorfod teithio i Rydaman neu Aberystwyth.
Ond bydd gwasanaethau newydd yn cael eu sefydlu yn Sir Benfro a de Ceredigion er mwyn torri amseroedd teithio.
Dywedodd Llywodraeth Cymru byddai'r gwasanaethau newydd hefyd yn lleihau amseroedd aros am lawdriniaethau.
Yn y gorffennol, roedd yn rhaid i bobl sydd â'r cyflwr deithio i ysbytai Dyffryn Aman neu Bronglais.
'Nes at adref'
Ond mae'r bwrdd iechyd ar hyn o bryd yn ystyried ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro, fel canolfan ar gyfer cleifion yn Sir Benfro, a chreu canolfan naill ai yn Aberteifi neu Crymych i drigolion yn ne Ceredigion.
Y gobaith yw y bydd y safleoedd newydd yn weithredol o fewn y tri neu bedwar mis nesaf.
Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd: "Nid yn unig bydd y gwasanaethau hyn yn dod â gofal yn nes at gartrefi pobl yn ar y cymunedau hyn, ond byddant yn cael eu datblygu fel gwasanaethau siop un-stop, sy'n gallu darparu sawl gwasanaeth yn ystod yr un ymweliad er mwyn atal dyblygu teithiau pan fo hynny'n bosibl.
"Bydd hyn hefyd yn rhyddhau capasiti yn y ddau brif safle ar gyfer gwaith llawfeddygol eraill, gan leihau'r amserau aros ar gyfer cleifion sydd angen llawdriniaeth cataract."