Diwydiant dur: Carwyn Jones yn galw am becyn cymorth
- Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi annog llywodraeth y DU i gyflwyno pecyn cymorth i helpu'r diwydiant dur gyda'u costau ynni.
Mae gweithwyr ar safle Tata ym Mhort Talbot yn aros i glywed a fydd cannoedd o swyddi yn cael eu colli, er mwyn achub y ffatri.
Fe fydd y cwmni yn gwneud y cyhoeddiad yn ystod yr wythnos nesaf.
Mewn dadl rhwng arweinwyr y pleidiau ar BBC Radio Wales, dywedodd Mr Jones y gallai llywodraeth y DU weithredu ar gostau ynni yn "hynod o uchel".
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: "Dylai pob opsiwn gael ei ystyried" gan gynnwys yr opsiwn i lywodraeth Cymru gymryd "cyfran dros dro yn y diwydiant dur".
Dywedodd Mr Jones nad oedd modd i'w lywodraeth wneud hynny oherwydd "y costau'n enfawr".
Yn ystod y rhaglen, dywedodd arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill, fod angen gwneud mwy i helpu busnesau bach ac entrepreneuriaeth.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, bod angen ei gwneud hi'n haws i fusnesau bach a chanolig eu maint, i gael mynediad i gyllid.
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, fod y seilwaith yn "druenus o" annigonol yng Nghymru, yn arbennig, ar gyfer technoleg symudol a'r rhyngrwyd.
'Darparu mwy o ryddhad'
Wrth siarad ar ôl y rhaglen, dywedodd Mr Davies y dylai llywodraethau'r DU a Chymru gydweithio i helpu canolfan dur Tata ym Mhort Talbot. Dywedodd y gallai llywodraeth Cymru ddarparu mwy o ryddhad ar drethi busnes.
Cytunodd Ms Williams y dylai'r ddwy lywodraeth gydweithio, ond mai gan lywodraeth y DU "mae'r adnoddau mewn gwirionedd i wneud gwahaniaeth - a dylai fod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i amddiffyn swyddi yng Nghymru."
Dywedodd Mr Gill fod rheolau cymorth gwladwriaethol yr UE yn ei gwneud yn anodd gwneud unrhyw beth i helpu, fodd bynnag, mae'n credu y gallai llywodraeth y DU roi benthyciad tymor byr i'r cwmni.
"Ni allwn ganiatáu i'r ffwrneisi gael eu troi i ffwrdd oherwydd unwaith y maent wedi eu diffodd, ni fyddant byth yn cael eu troi ymlaen eto," ychwanegodd.