Dwy gath wedi marw mewn tân yn Y Barri
- Cyhoeddwyd

Mae dwy gath wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ ym Mro Morgannwg.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r cartref ar Stryd Bell yn Y Barri tua 03:10 ddydd Sadwrn.
Roedd yr adeilad yn wag, oni bai am y cathod, meddai Gwasanaeth Tân De Cymru.
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i achos y tân.