Sganiwr MRI 'mwyaf pwerus Ewrop' i Brifysgol Caerdydd
- Published
Bydd sganiwr MRI mwyaf pwerus Ewrop, sy'n dangos lluniau manwl o ymennydd unigolion, yn cyrraedd Caerdydd ddydd Sul.
Mae disgwyl i hwn alluogi gwyddonwyr i weld delweddau o'r ymennydd dynol yn fanylach nag erioed o'r blaen.
Bydd y sganiwr yn cael ei symud i Ganolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) ar Heol Maendy.
"Mae dyfodiad y sganiwr hwn yn garreg filltir sylweddol yn y gwaith o adeiladu ein canolfan ymchwil newydd gwerth £44m, a bydd yn sicr o roi Prifysgol Caerdydd a Chymru ar y map o ran niwroddelweddu," meddai'r Athro Derek Jones, Cyfarwyddwr CUBRIC.
"I roi gallu'r sganiwr newydd mewn rhyw fath o gyd-destun, mae llinyn gwallt dynol yn amrywio mewn diamedr o 17 micron i 180 micron. Bydd y sganiwr newydd hwn yn ein galluogi i gael gwybodaeth am strwythur y meinweoedd yn yr ymennydd ar hyd o filfed rhan o filimetr neu un micron."
Mae gwyddonwyr yn gwybod y gall dwysedd ffibrau nerfau a'u diamedr ddylanwadu ar allu'r ymennydd i gario gwybodaeth.
Gan fod yr ymennydd yn gweithredu fel rhwydwaith, mae deall gwahaniaethau unigol yn 'ansawdd' y cysylltiadau hynny yn dod yn fwyfwy pwysig.
Bydd y sganiwr newydd yn helpu gwyddonwyr i ddeall y gwahaniaethau unigol hyn yn well.