BBC Cymru Fyw

Torquay 1-0 Wrecsam

Published
image copyrightGetty Images
Mae Wrecsam allan o Dlws FA Lloegr ar ôl i gôl hwyr Shepherd Murombedzi sicrhau lle Torquay yn y bumed rownd.
Fe roddodd Murombedzi'r bêl heibio Rhys Taylor rhwng y pyst i'r Dreigiau gan olygu bod yr ymwelwyr wedi colli pum gêm yn olynol.
Torquay reolodd yr hanner cyntaf ac fe aeth Andre Wright yn agos i'r tîm cartref.
Ond bydd dim ail ymweliad â Wembley i Wrecsam yn Nhlws FA Lloegr y tymor hwn.