Babi mewn parc: Parhau i chwilio am y fam

  • Cyhoeddwyd
babiFfynhonnell y llun, PA

Mae'n bosib fod mam a roddodd enedigaeth mewn parc dri mis yn ôl wedi bod dan bwysau i gadw'r enedigaeth yn gyfrinach, yn ôl yr heddlu.

Credir i'r ferch fach farw yn fuan wedi iddi gael ei geni ym Mharc Seymour, Pen-hw, Casnewydd, ar y naill ai 18 neu 19 Hydref.

Mae'r heddlu yn credu ei bod yn bosib i'r fam fod yn ferch ysgol ifanc, a oedd yn "ofni beth oedd ei rhieni yn feddwl am y beichiogrwydd".

Mewn apêl o'r newydd i ddod o hyd iddi, mae athrawon wedi cael cais i feddwl am unrhyw ddisgybl sydd wedi newid eu hymddygiad yn ddiweddar.

'O dan bwysau'

Er gwaethaf y sylw yn y cyfryngau, dadansoddi fforensig o ddeunyddiau geni ac ymdrech i olrhain symudiadau menywod beichiog yn yr ardal, nid oes neb wedi dod o hyd i fam y babi.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Ruth Price, fod yr heddlu yn gweithredu ar y sail nad oedd y ferch fach wedi goroesi'r enedigaeth.

Dywedodd y byddai ymddygiad y fam wedi newid ers yr enedigaeth, byddai hi yn ôl pob tebyg wedi osgoi gwneud ymarfer corff ac fe fyddai wedi ymddangos "o dan bwysau aruthrol".

"Os bydd y ferch yn mynychu ysgol, gall athrawon fod wedi sylwi ar unrhyw un o'r ymddygiadau hyn," meddai.

"Hoffwn apelio atynt fel grŵp i feddwl am unrhyw un o'u disgyblion a allai ffitio i rai neu bob un o'r categorïau yma."

Mae'r heddlu yn gobeithio y gall proffilio DNA arwain at adnabod y fam, ond dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Price y gallai hi fod wedi bod dan bwysau i gadw'r enedigaeth yn gyfrinach.