Racing Metro 64-14 Scarlets
- Cyhoeddwyd

Mae Racing 92 wedi sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop wrth iddynt drechu'r Scarlets gartref ym Mharis ddydd Sul.
Fe brofodd y Ffrancwyr yn ormod i arweinwyr y Pro12 wrth i bump o'u ceisiau ddod cyn yr egwyl.
Fe lwyddodd Dan Carter i sicrhau 13 o bwyntiau heb fawr o ymdrech, gyda seren y gêm, Casey Laulala yn sgorio tri chais.
Dyma'r nifer fwyaf o bwyntiau i'r Scarlets eu hildio mewn gêm, cyn hyn, colli o 41-0 yn erbyn Clermont Auvergne yn 2008 oedd eu record waethaf.
Ni wnaed pethau'n haws i'r tîm o'r gorllewin yn sgil anaf ar y funud olaf i'r chwaraewr ail reng o Dde Affrica, George Earle a ddioddefodd anaf i'w goes, ac felly yn methu chwarae.