Disgwyl cyhoeddiad am gannoedd o swyddi dur ddydd Llun

  • Cyhoeddwyd
dur

Mae BBC Cymru ar ddeall ei bod hi'n debygol y bydd cwmni dur Tata yn cyhoeddi y bydd cannoedd o swyddi yn mynd yng Nghymru.

Mae'r diwydiant dur yn wynebu cyfnod anodd iawn oherwydd cyfuniad o ddur rhad o China, cryfder y bunt a chostau ynni uchel.

Yn rhan ganolog o economi Cymru ers degawdau, mae amryw yn darogan fod y diwydiant dur yn wynebu argyfwng.

Gyda channoedd o swyddi yn y fantol, mae yna alw ar i wleidyddion wneud mwy i helpu.

Mae tua 4,000 yn gweithio ym Mhort Talbot ac mae Tata yn cyflogi 6,000 ledled Cymru a 17,000 yn y DU.

Yn ôl un amcangyfrif mae gweithwyr y diwydiant yn cyfranu £200m mewn cyflogau i economi Cymru bob blwyddyn.

Ffynhonnell y llun, PA

Ym mis Hydref, fe wnaeth Tata gyhoeddi y byddai 1,200 yn colli eu gwaith yn Scunthorpe a Lanarkshire.

Yn yr Eidal, mae'r llywodraeth yno wedi prynu rhan o safle dur mwya' wlad.

Mae Plaid Cymru wedi galw ac i Lywodraeth Cymru i wneud yr un peth, tra bo prif weinidog Cymru yn dweud mai Llywodraeth Prydain ddylai fod yn barod i gamu i'r adwy.

Mae Llywodraeth Prydain yn dweud eu bod yn gweithio'n agos gyda'r diwydiant yn ystod cyfnod "eithriadol o anodd."