Harlequins 34-26 Gleision

  • Cyhoeddwyd
gleision quinsFfynhonnell y llun, Getty Images

Nid oedd adfywiad yn yr ail hanner yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth i Gaerdydd mewn gêm grŵp yn erbyn yr Harlequins yng Nghwpan Her Ewrop ddydd Sul.

Fe lwyddodd Rob Buchanan, Jack Clifford, Marland Yarde a Ross Chisholm i groesi'r llinell cyn yr egwyl gan sicrhau 28-0 o fantais i'r tîm cartref.

Fe ymatebodd y Gleision gyda dau gais gan Dan Fish ac fe lwyddodd Cory Allen a Lloyd Williams i ychwanegu at y sgôr, a'i gwneud hi'n 31-26.

Fodd bynnag, fe chwalwyd unrhyw obaith i'r ymwelwyr wedi cic cosb hwyr gan Ben Botica.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod y tîm o orllewin Llundain yn sicr o'u lle yn y chwarteri ym mis Ebrill ar ôl llwyddo i ennill pum pwynt bonws o bum gêm.

Bydd angen i'r Gleision sicrhau buddugoliaeth yn eu gêm gartref yn erbyn Calvisano ddydd Gwener os am unrhyw obaith o fynd ymhellach yn y gwpan.