Dwy ddynes yn yr ysbyty yn dilyn tân mewn tŷ
- Cyhoeddwyd
Mae dwy ddynes wedi cael eu cludo i'r ysbyty yn dilyn tân mewn tŷ yn Abergele fore Llun.
Fe gafodd y gwasanaeth brys eu galw i'r eiddo yn Gorwel am tua 04:15.
Mi lwyddodd un ddynes i ddianc o'r tân, ac fe gafodd dynes arall ei hachub gan swyddogion.
Mae'r gwasanaethau brys yn parhau i fod ar y safle, ac mae disgwyl i ymchwiliad gael ei gynnal yn ddiweddarach.