Dechrau apêl i ddatblygu'r amgueddfa Lloyd George

lloyd george Image copyright AP

Canrif union eleni ers i David Lloyd George ddod yn Brif Weinidog Prydain, mi fydd apêl yn cael ei lansio yn Llanystumdwy, Gwynedd fore Llun i ddatblygu'r amgueddfa yno.

Y gobaith ydi codi hyd at £250,000 i ddatblygu'r amgueddfa sydd er cof amdano yn y pentref.

Mae'r eitemau yn Amgueddfa Lloyd George, sydd wedi ei leoli yng nghartref ei blentyndod, yn dysgu pobl am fywyd y cyn-Brif Weinidog a'r cyfnod rhwng 1863-1945.

Fe fydd aelodau o'i deulu yn rhan o'r lansiad fore Llun, ac yn gosod torch o flodau ar ei fedd ar ddiwrnod ei ben-blwydd.

Mae disgwyl cyfres o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn i nodi'r canmlwyddiant.