BT i greu 100 o swyddi newydd yn Abertawe
- Cyhoeddwyd

Bydd BT yn creu 100 o swyddi yn Abertawe fel rhan o gynllun i recriwtio 1,000 o staff newydd ar draws y DU erbyn 2017.
Bydd y swyddi eraill wedi'u gwasgaru ar draws canolfannau cyswllt BT, ond dyw'r manylion heb eu cyhoeddi eto.
Daw'r cyhoeddiad wedi i'r cwmni addo ateb dros 80% o alwadau gan gwsmeriaid o'r DU eleni.
Mae 50 o gynghorwyr eisoes wedi cael eu recriwtio i weithio yn Abertawe gyda'r cwmni.