Dyn yn gwadu llofruddio landlord
- Cyhoeddwyd

Mae David Ellis (dde) yn gwadu llofruddio Alec Waburton
Mae dyn wedi gwadu llofruddio'i gyn-landlord yn yr haf y llynedd.
Fe wnaeth David Craig Ellis, 40, bledio'n ddieuog i lofruddio Alec Warburton, 59, rhwng 30 Gorffennaf a 7 Awst.
Aeth Mr Warburton ar goll o'i gartref yn Sgeti ar 31 Gorffennaf, a chafodd ei gorff ei ddarganfod ar 20 Medi.
Wedi'r gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe, cafodd Mr Ellis ei gadw yn y ddalfa.