Salwch stumog yn effeithio ar Ysbyty Maelor Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Mae nifer o achosion o salwch stumog wedi cynyddu'r pwysau ar uned frys Ysbyty Maelor Wrecsam, medd rheolwyr.
Mae hefyd wedi arwain at ohirio nifer o lawdriniaethau oedd wedi'u trefnu o flaen llaw.
Cafodd pobl eu trin am ddolur rhydd a chyfogi dros y penwythnos ac mae nifer o achosion o norofirws wedi'u cadarnhau.
O ganlyniad, mae rheolwyr wedi atal rhagor o gleifion rhag dod i ystafelloedd sydd wedi'u heffeithio er mwyn atal y salwch rhag lledaenu.
Maen nhw'n dweud fod hyn wedi arwain at arafu'r broses o symud cleifion o'r uned frys i rannau eraill o'r ysbyty.
Does dim cleifion yn cael eu derbyn i bedwar o'r wardiau am y tro fel mesur dros dro, medd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol