Unedau brys Cymru ar 'ymyl y dibyn'

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Athrofaol Cymru

Mae unedau brys yng Nghymru "ar ymyl y dibyn" ac mae prinder staff ac ysbytai gorlawn yn golygu bod gormod o gleifion yn disgwyl yn rhy hir - rhai dros 24 awr - mewn unedau brys.

Dyna rybudd Pennaeth Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yng Nghymru, er bod y gaeaf hyd yma wedi bod yn fwyn i gymharu gyda'r blynyddoedd diweddar.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos ychydig o welliant yn yr amseroedd aros ar draws Cymru.

Yn Rhagfyr 2015 fe wnaeth 81.1% o gleifion aros am lai na phedair awr mewn unedau brys - mae hynny'n union yr un canran ag yn Rhagfyr 2014.

Ond bu llai o bobl yn disgwyl am fwy na 12 awr i gael eu gweld. Yn Rhagfyr 2014 fe gafodd 96.8% o gleifion eu gweld, eu trin neu eu gyrru adref o fewn 12 awr, ond erbyn Rhagfyr 2015 roedd hynny wedi gwella i 97.6%.

Ond o ran ffigyrau roedd y gwelliant yn well gan fod 2487 o bobl wedi aros yn fwy na 12 awr yn 2014 o gymharu â 1888 fis diwethaf.

Pwysau ar staff

Dywedodd Dr Robin Roop wrth BBC Cymru nad oes gan unrhyw uned frys yng Nghymru ddigon o ymgynghorwyr er mwyn cwrdd â lefelau staffio sydd wedi'u dynodi gan y Coleg.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, dyw'r pwysau yma ddim yn "unigryw i Gymru na'r prinder mewn ymgynghorwyr meddygaeth frys - maen nhw'n gyffredin ar draws Prydain."

Ond dywedodd Dr Roop fod llenwi'r bylchau yn "anodd ofnadwy" a phwysau ar staff yn golygu eu bod yn "gweithio yn hynod o galed".

Dywed hefyd fod "morâl yn diflannu" a bod mwy yn rhoi'r gorau i weithio yn y maes meddygaeth frys.

Prinder ymgynghorwyr

"Yng Nghymru mae trosiant staff meddygaeth frys yn gwaethygu. Dy'n ni ddim wedi llwyddo i benodi ymgynghorwyr newydd ar y lefel yma i gymharu gyda gwledydd eraill. Mae gan Yr Alban 190 o ymgynghorwyr meddygaeth frys, 60 sydd gan Gymru."

"Does gan yr un o'r adrannau brys yng Nghymru'r niferoedd mae'r Coleg yn credu sy'n angenrheidiol mewn uned frys. Mae Ysbyty Athrofaol Cymru angen lleiafswm o 20 ymgynghorydd. Yma yn Wrecsam ni angen 10.

"Ry'n ni bedwar yn fyr yn Wrecsam ac mae Ysbyty Athrofaol Cymru yn brin o tua'r un niferoedd hefyd."

Disgrifiad,

Owain Clarke yn holi Steffan Simpson, nyrs yn uned frys Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd

Gyda wardiau'n llawn, mae cleifion yn aml yn gorfod aros yn hir yn yr uned frys, meddai Dr Roop.

Mae'n honni bod hyn yn broblem "gyson" er ymdrechion y byrddau iechyd i gynnig mwy o welyau mewn ysbytai ac i ohirio llawdriniaethau sydd ddim yn rhai argyfwng ar adegau prysur.

Effaith hyn, meddai, yw bod staff yn gorfod edrych ar ôl cleifion am gyfnod hirach - weithiau dros 24 awr - a bod nyrsys yn yr unedau brys yn gorfod gwneud gwaith nyrsys ward.

Disgrifiad o’r llun,
Dr Robin Roop

Gwaeth i ddod?

Mae Dr Roop hefyd yn rhybuddio y gallai pwysau ar unedau brys waethygu yn yr wythnosau nesa', yn rhannol oherwydd ffliw. Mae hyn i'w weld yn barod eleni.

Mae'n canmol Llywodraeth Cymru am eu parodrwydd i drafod gyda'r Coleg ynglŷn â'r pryderon. Ond mae'n dweud bod yna "lot mwy o waith i wneud" i ddelio gyda'r pwysau cynyddol ar hyd y flwyddyn ac nid dim ond yn y gaeaf.

"Mae pob adran frys (yng Nghymru) ar y dibyn. Rydyn ni mor agos at sefyllfa lle mae cleifion yn wael iawn yn ein hadrannau ac mi allai hynny gael effaith ar adrannau eraill a chanlyniadau trychinebus.

"Ry'n ni yn gwybod pan mae ambiwlansys yn sownd tu allan i'n hadrannau, mae pobl yn y gymuned yn dioddef am ei bod hi'n amhosib cael yr ambiwlansys yna i'r bobl ar yr adeg iawn."

Wrth ymateb i sylwadau Dr Roop, dywedodd Llywodraeth Cymru bod yna 23% o ostyngiad wedi bod yn y nifer oedd yn aros mwy na 12 awr mewn adrannau brys ym mis Rhagfyr o'i gymharu â'r mis blaenorol.

Ond maen nhw'n cydnabod bod yna "fwy o waith i wneud" ac y byddan nhw'n parhau i weithio gyda'r Coleg Brenhinol ac arbenigwyr yn y maes.