Apêl wedi marwolaeth 40 mlynedd yn ôl
- Cyhoeddwyd

Deugain mlynedd ar ôl i fachgen 15 oed o Fae Colwyn gael ei ddarganfod yn anymwybodol yn Llundain, mae ditectifs wedi adnewyddu apêl am wybodaeth ynglŷn â'i farwolaeth
Fe wnaeth Peter Watts adael nodyn i'w rieni ar 19 Ionawr 1976, yn dweud ei fod yn bwriadu helpu ffrind gyda'i waith cartref.
Ond yn hytrach na hynny, aeth ar drên, heb yn wybod i'w deulu.
Cafodd ei ddarganfod oriau yn ddiweddarach ar lwybr ger Euston Road yn Llundain, a bu farw yn yr ysbyty.
Yn ôl archwiliad post mortem bu farw o anafiadau i'w ben, anafiadau allai fod wedi eu hachosi wrth iddo syrthio. Nid oedd unrhyw arwyddion o ffrwgwd.
Mae uned arbennig o'r Met yn apelio am wybodaeth.
Yn ôl unig berthynas Peter sy'n dal yn fyw - ei frawd Mark, 57 oed - mae'n bosib mai hwn fydd y cyfle olaf i ddarganfod beth yn union ddigwyddodd.