Alun Wyn Jones yn aros gyda'r Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Alun Wyn JonesFfynhonnell y llun, WRU

Mae Alun Wyn Jones wedi adnewyddu ei gytundeb deuol gydag Undeb Rygbi Cymru a'r Gweilch.

Mae'r clo 30 oed wedi ennill 94 o gapiau dros Gymru (a 6 i'r Llewod) ac wedi sgorio 18 cais yn ei 197 o ymddangosiadau i'r rhanbarth.

Ef yw'r diweddara' o garfan bresennol Cymru i adnewyddu ei gytundeb ar y cyd rhwng yr Undeb a'i rhanbarth.

Dywedodd Jones: "Rwy'n falch iawn o fod mewn sefyllfa i arwyddo cytundeb deuol er mwyn parhau i chwarae dros Gymru a'r Gweilch. Rwy'n ddiolchgar i bawb am roi'r amser i mi fedru gwneud y penderfyniad cywir i mi, fy nheulu a 'ngyrfa.

"Nawr bod fy nyfodol wedi ei drefnu gallaf barhau i gynrychioli'r Gweilch a bod ar gael i gael fy newis dros Gymru."

Ychwanegodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips:

"Rhaid rhoi clod i'r Gweilch am sicrhau bod Alun Wyn yn dechrau pennod nesaf ei yrfa gyda'r rhanbarth. Rwy'n sicr bod eu gweledigaeth a'u huchelgais wedi perswadio Alun Wyn i aros yn hytrach na mynd ar ôl sawl dewis arall oedd ganddo mwy na thebyg.

"Yn fy meddwl i, mae e'n arweinydd ar y cae ac oddi arno ac mae'n hwb mawr i rygbi yng Nghymru i weld ei ymroddiad i'r gêm yn y wlad yma."

Mae'n debyg y bydd Alun Wyn Jones yn rhan o garfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a fydd yn cael ei chyhoeddi am 12:00 ddydd Mawrth.