'Colli cyfleoedd' i erlyn Janner
- Cyhoeddwyd

Mae ymchwiliad annibynnol wedi dod i'r casgliad bod yr awdurdodau wedi colli cyfleoedd i erlyn y diweddar Arglwydd Janner am droseddau rhyw honedig yn erbyn plant.
Ar 15 Ionawr fe wnaeth y Llys Troseddau Canolog ddod â chamau cyfreithiol yn erbyn Janner - gafodd ei eni yng Nghaerdydd - i ben yn dilyn ei farwolaeth ym mis Rhagfyr y llynedd.
Ychydig cyn iddo farw fe gafodd ei gyhuddo o 22 achos o droseddau rhyw yn erbyn bechgyn rhwng y 1960au a'r 1980au.
Roedd ei deulu yn gwadu'r honiadau, ond fe wnaeth y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus Alison Saunders gomisiynu ymchwiliad annibynnol.
Ddydd Mawrth fe ddaeth yr ymchwiliad i'r casgliad bod cyfleoedd wedi bod yn 1991, 2002 a 2007 i erlyn Janner.
Fe ddywed ymchwiliad y cyn Farnwr Uchel Lys Sir Richard Henriques:
- Bod y penderfyniad i beidio erlyn yr Arglwydd Janner yn 1991 yn anghywir a bod digon o dystiolaeth yn ei erbyn i roi gobaith realistig o euogfarn. Hefyd, roedd ymchwiliad yr heddlu yn annigonol ac ni ddylai Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) fod wedi gwneud penderfyniad i beidio erlyn tan i'r heddlu ymchwilio ymhellach;
- Yn 2002 ni wnaeth yr heddlu drosglwyddo honiadau yn erbyn yr Arglwydd Janner i'r CPS ac felly nid oedd yn bosib ei erlyn. Dylai hyn fod yn destun ymchwiliad gan Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu;
- Roedd digon o dystiolaeth i erlyn yr Arglwydd Janner yn 2007. Dylai fod wedi cael ei arestio a'i holi ar y pryd.
'Methiannau'
Dywedodd Alison Saunders: "Mae clywed bod yr ymchwiliad wedi canfod camgymeriadau yn cadarnhau fy marn bod methiannau'r gorffennol gan erlynwyr a heddlu yn golygu na chafodd achos ei ddwyn {yn erbyn yr Arglwydd Janner}.
"Mae'n bwysig i ni ddeall y camau arweiniodd at y penderfyniadau yma i beidio erlyn, ac i sicrhau nad oes camgymeriadau tebyg yn digwydd eto.
"Rwyf wedi ystyried yr argymhellion yn adroddiad Sir Richard Henriques, sy'n cydnabod bod y CPS wedi symud ymlaen yn fawr ers yr ymchwiliadau yma. Rydym hefyd yn gweithredu ei argymhellion i wneud newidiadau pellach mewn achosion sensitif fel hyn."
Fe gafodd canllawiau newydd eu cyflwyno gan y CPS yn 2013 wrth ddelio gydag achosion o gam-drin plant, sy'n cydnabod y dylai erlynwyr ganolbwyntio ar hygrededd yr honiadau yn hytrach nag ar weithredoedd y dioddefwyr yn unig.
Mae'r canllawiau hefyd yn dweud na ddylai ffactorau - fel adrodd am honiadau hanesyddol neu ddioddefwr yn dychwelyd at y person yr honnir iddo gam-drin - danseilio hygrededd tystiolaeth y dioddefwr.
Straeon perthnasol
- 19 Rhagfyr 2015
- 7 Rhagfyr 2015
- 29 Mehefin 2015