Ymchwiliad i dâl diswyddo comisiynydd
- Cyhoeddwyd

Fe fydd ymchwiliad i'r penderfyniad i gynnig tâl diswyddo gwirfoddol i brif weithredwr swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.
Fe wnaeth Anna Humphreys gais am ddiswyddo gwirfoddol am nad oedd am ddychwelyd i weithio ar ôl cyfnod mamolaeth ym mis Chwefror y llynedd.
Mae cwyn wedi cael ei gwneud i gadeirydd panel heddlu a throsedd y rhanbarth.
Mae'r comisiynydd, Winston Roddick, wedi amddiffyn penodi prif weithredwr newydd yn lle Ms Humphreys.
Deellir bod y gŵyn yn gofyn sut y gall prif weithredwr newydd gael ei benodi os cafodd yr un blaenorol ei wneud yn ddi-waith.
Trosglwyddo
Dywedodd Glenys Diskin, Cadeirydd Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, ei bod wedi derbyn cwyn a'i bod wedi trosglwyddo'r e-bost i'r prif swyddog cyfreithiol ar Gyngor Conwy.
"Bydd yn cael ei ystyried yn llawn ac yna'n cael ei gyfeirio i'r panel," meddai.
Ond yng nghofnodion cyfarfod o'r panel fis diwethaf cafodd y mater ei drafod yn fwy manwl.
Dywedodd y cofnodion wrth gyfeirio at Ms Humphreys mai "yr unigolyn, nid y swydd sydd yn ddiangen".
'Yn gyfreithiol'
Mewn datganiad dywedodd Mr Roddick: "Mae fy mhenderfyniad i benodi prif weithredwr yn gwbl gyfreithiol, ac rwyf wedi egluro'r rhesymau am y penderfyniad i'r Panel Heddlu a Throsedd ym mis Rhagfyr ... mae'r eglurhad yna yn dal i'w weld ar wefan y Panel Heddlu a Throsedd.
"Gan fod rhywun wedi cwyno wrth y panel ni fyddai'n briodol i mi wneud sylw pellach ar y mater tan i'r panel godi'r mater gyda mi."
Bydd etholiad ar gyfer swydd y Comisiynydd ym mis Mai ac mae'r ymgeisydd Llafur David Taylor wedi annog y comisiynydd i atal y broses o chwilio am brif weithredwr newydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2015
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2015