'Pwysau ar wddf' laddodd Georgina Symonds yn ne Cymru
- Cyhoeddwyd

Roedd gan Georgina Symonds, 25, ferch bump oed
Mae cwest wedi clywed mai "pwysau ar ei gwddf" laddodd ddynes 25 oed yn ne Cymru.
Cafodd corff Georgina Symonds ei ddarganfod mewn gweithdy ar Fferm Beech Hill ym Mrynbuga, Sir Fynwy, ar 13 Ionawr.
Mae Peter Morgan, 53 o'r Fenni, wedi ei gyhuddo o'i llofruddio.
Cafodd y gwrandawiad yn Llys Crwner Gwent ei ohirio er mwyn i'r heddlu barhau i ymchwilio.