89 o swyddi newydd gyda chwmni yswiriant yng Nghaerffili

Moorhouse Group yng Nghaerffili Image copyright Google

Bydd cwmni yswiriant o Gaerffili yn creu 89 o swyddi newydd wrth i nifer y gweithwyr ddyblu.

Mae Moorhouse Group, sy'n masnachu o dan yr enw Constructaquote.com, yn darparu gwasanaeth cymharu yswiriant ar-lein.

Dywedodd y cwmni y byddai'r swyddi'n helpu datblygu gwasanaethau newydd.

Ychwanegodd eu bod wedi ystyried creu'r swyddi yn Ne Affrica ond bod Llywodraeth Cymru wedi addo £500,000.

Ar hyn o bryd mae'r busnes yn cyflogi 105 a bydd y rhai newydd yn cael eu creu yn ystod y ddwy flynedd nesaf.