Cadw gafael ar y Gymraeg
- Cyhoeddwyd

Bydd rhifyn nos Iau, 21 Ionawr, o Pawb a'i Farn ar S4C yn cael ei ddarlledu o Lancaiach Fawr yn Sir Caerffili. Un o'r panelwyr ydy Sian Morgan Lloyd, darlithydd y Coleg Cymraeg yn Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd.
Mewn erthygl i Cymru Fyw i gyd-fynd gyda'r gyfres mae hi'n trafod ei pherthynas gyda'r iaith Gymraeg a'r her sydd yn ei hwynebu:
"Ddim yn cŵl i ddefnyddio'r Gymraeg"
Doedd e ddim yn fwriadol neu'n faleisus ond erbyn i fi droi'n 21 oed roedd yr iaith (a fu'n rhan mor bwysig a dylanwadol o fy mhlentyndod) yn llithro o'm gafael.
Wedi fy ngeni ger Pen-y-bont ar Ogwr i rieni o'r Cymoedd, nid y Gymraeg oedd iaith yr aelwyd. Yn hanesydd gyda diddordeb mewn hanes Cymru, roedd fy nhad â chwant ei dysgu erioed, a phan o'n i'n ddwy oed fe symudon ni i Rydaman yn Sir Gaerfyrddin oherwydd ei swydd. Yno, ges i, fy mrawd a fy chwaer addysg Gymraeg ac fe lwyddodd Dad i ddysgu fel oedolyn.
Ond pan ddaeth hi'n amser dewis fy mhynciau TGAU es ati i wneud popeth heblaw am Cymraeg trwy gyfrwng y Saesneg. Yn syml, ro'n i'n fwy hyderus o lawer yn yr iaith honno ac yn teimlo y byddai mwy o lwyddiant yn dod i fy rhan yn fy arholiadau.
Ac mae rhaid cyfaddef, Saesneg oedd iaith cymdeithasu fi a fy ffrindiau. Doedd hi ddim yn 'cŵl' i ddefnyddio'r Gymraeg.
Ar ôl symud i Gaerwysg i wneud fy ngradd - cryfhau wnaeth fy nheimladau o wladgarwch a Chymreictod, ond roedd diffyg cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith yn ergyd bellach i'r hyder. Heb os, roedd symud i Loegr am gyfnod yn brofiad gwych roddodd berspectif gwahanol i fi, ac yn y pen draw, mwy o gariad tuag at Gymru a'r iaith.
Yr iaith yn berthnasol?
Y broblem, mae'n siŵr, oedd y diffyg cyfeillion a oedd yn defnyddio'r Gymraeg yn rheolaidd gatref, a doedd dim digon o resymau gen i felly i ymarfer a gwerthfawrogi 'iaith y nefoedd'! Roedd y Gymraeg, mewn ffordd, yn colli ei pherthnasedd ac yn dechrau teimlo yn ddieithr i mi.
Mae'r cyfrifiad diweddaraf yn awgrymu mai nid fi yn unig gollodd y berthynas honno gyda'r Gymraeg ar ôl gadael ysgol yn Sir Gaerfyrddin.
Yn 2011 wnes i raglen i'r 'Byd ar Bedwar' ar ganlyniadau'r cyfrifiad. Fe ddes i i'r casgliad bod cryn dipyn o bobl ifanc yr ardal, a oedd wedi cael addysg Gymraeg, wedi colli'r hyder i siarad yr iaith am nad oedden nhw wedi ei defnyddio hi rhyw lawer y tu hwnt i furiau'r 'stafell ddosbarth.
Serch hynny, roedd y mwyafrif a oedd bellach wedi cael plant eu hunain yn eu hanfon nhw i ysgolion Cymraeg, ac roedd hynny yn bwysig iddyn nhw.
Ond ai iaith fyw yw iaith y meithrin, y capel a'r ysgol yn unig? Er mwyn sicrhau dyfodol i'r iaith mae angen ei gwneud hi'n berthnasol ac yn werthfawr, yn ddefnyddiol ac yn apelgar.
Mae'r niferoedd sydd yn cael addysg Gymraeg ar gynnydd, ac mae'r twf mewn siaradwyr Cymraeg mewn ardaloedd y tu hwnt i'r cadarnleoedd fel cymoedd y De i'w ddathlu. Ond, oni bai bod swyddi, cyfleoedd a chefnogaeth - ai dirywio eto fydd ei thynged hi?
Dyfodol y Gymraeg
Efallai bod ffawd wedi bod yn ffactor i fi. Wedi derbyn lle ar gwrs ôl-radd yn Ysgol Newyddiaduraeth Caerdydd roeddwn i'n ddigon ffodus i gael fy newis am ysgoloriaeth ITV Cymru, a swydd gyda'r rhaglen 'Hacio' ar ôl cwblhau'r cwrs.
Roedd angen i fi weithio'n galed iawn ar fy sgiliau iaith, ac mae'r ymrwymiad a'r frwydr i wella ac i loywi yn parhau hyd heddiw.
Mae arbenigwyr iaith yn datgan bod ieithoedd mewn argyfwng pan fo iaith sy'n gryfach yn gymdeithasol, yn wleidyddol ac yn economaidd yn ei disodli hi.
Mae amddiffyn yr iaith, felly, a sicrhau dyfodol ar ei chyfer yn her. Mae wir angen mynd i'r afael â pham bod pobl ifanc yn dewis peidio defnyddio'r iaith yn gymdeithasol mewn ardaloedd lle mae'r iaith yn rhan mor gyfoethog a phwysig o'u hanes nhw.
Dwi'n derbyn fy mod i yn un o'r rheini sydd nawr yn cael eu cyfri ymhlith y siaradwyr Cymraeg sydd ar gynnydd yn y brifddinas, a hynny yn ergyd i ardaloedd fel Rhydaman lle ges i fy magu. Ond yng Nghaerdydd ddaeth yr iaith yn rhywbeth gwbl ymarferol, pleserus a pherthnasol i mi.
Yma rydw i wedi sefydlu bywyd lle rydw i'n llwyddo i fyw bron yn gyfan gwbl drwy'r iaith Gymraeg ac yn ceisio hybu eraill i wneud yr un peth, ac i gael yr hyder i ddefnyddio'u Cymraeg beth bynnag eu gallu.
Mae'r ffaith bod darpariaeth ehangach bellach ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg yn ein prifysgolion yn allweddol. Mae'n agor drysau, yn creu cyfleoedd gan sicrhau cenhedlaeth o Gymry Cymraeg fydd yn arbenigo mewn trawsdoriad o feysydd. A dyna sydd ei hangen ar iaith i ffynnu.
Yn blentyn, do, fe gymerais i'r Gymraeg yn gwbl ganiataol. Bellach, dwi'n gwybod mai braint oedd cael addysg Gymraeg a rhieni a oedd yn fodlon i fi gael fy addysg mewn iaith estron i iaith y cartref.
Braint oedd gweithio mewn awyrgylch lle ges i gyfle i ymarfer, i wella ac i wneud camgymeriadau. Ddeng mlynedd yn ôl fydden i ddim wedi mentro credu bod modd i mi weithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddyddiol, ac ar deledu byw!
Fe fyddai'r syniad o ysgrifennu erthygl fel hon wedi fy mrawychu, ond dwi'n falch o ddweud fy mod i'n brawf taw dyfal donc pia hi!
Pawb a'i Farn, S4C, nos Iau, 21 Ionawr, 21:30