Cau pum ward oherwydd salwch stumog yn Ysbyty Maelor Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Mae pum ward wedi cau oherwydd salwch stumog norofeirws yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Cafodd 22 o gleifion eu heffeithio ac mae cyfyngiadau mewn tair ward arall.
Mae ystafelloedd wedi eu cau yn Ysbyty Cymunedol Glannau Dyfrdwy a ward yn Ysbyty Cymunedol Y Waun.
Roedd nifer achosion wedi cynyddu'r pwysau ar yr uned frys ac wedi arwain at ohirio nifer o lawdriniaethau oedd wedi'u trefnu o flaen llaw.
Cyngor
Cafodd pobl driniaeth oherwydd dolur rhydd a chyfogi dros y penwythnos.
Dyma gyngor y bwrdd iechyd:
- Dylai ymwelwyr gymryd sylw o'r arwyddion sy'n cyfeirio at ardaloedd wedi eu heintio a chael cyngor staff cyn mynd i mewn i'r ardaloedd hynny
- Dylai pobl ufuddhau i'r cyfyngiadau ar nifer ymwelwyr a dilyn canllawiau golchi dwylo cyn ac ar ôl mynd i'r wardiau dan sylw
- Ni ddylai rhieni fynd â babis na phobl ifanc i mewn i'r wardiau dan sylw
- Ni ddylai ymwelwyr fynd i'r wardiau os ydyn nhw wedi diodde o ddolur rhydd, cyfogi neu stumog sâl ers 48 awr
- Dylai unrhywun â symptomau sy' i fod i fynd i mewn i'r ysbyty fel claf neu i fod i gael apwyntiad ffonio'r adran am gyngor o flaen llaw.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol