Cynulliad: Llai'n ymweld ond mwy'n gwylio
- Cyhoeddwyd

Mae 'na ostyngiad wedi bod yn nifer y bobl sy'n ymweld ag adeiladau'r Cynulliad Cenedlaethol.
Rhwng mis Ebrill a mis Medi 2015, fe ymwelodd 93,547 o bobl a'r Senedd ac adeilad y Pierhead, o'i gymharu a 102, 799 yn ystod yr un cyfnod yn 2014.
Ond fe fu cynnydd yn nifer y bobl ddewisiodd gael taith i'w tywys o gwmpas y Cynulliad - o 9,083 i 9,447 yn ystod yr un cyfnod.
Mae'r ffigyrau wedi eu cyhoeddi yn yr adroddiad ar berfformiad corfforaethol y cynulliad, fydd yn cael ei drafod gan ACau ddydd Mercher.
Mae'r adroddiad yn amlinellu perfformiad y Comisiwn yng nghyd-destun ei thair targed:
- Darparu cefnogaeth seneddol o'r radd flaenaf
- Ymgysylltu a phobl Cymru a hyrwyddo Cymru
- Defnyddio adnoddau'n ddoeth
Mae nifer y bobl sy'n defnyddio gwasanaeth teledu Senedd-tv - sy'n darlledu gweithrediadau'r Cynulliad a cyfarfodydd pwyllgorau - wedi cynyddu o 4,159 i 20,911.
Yn ôl yr adroddiad, mae'r cynnydd o ganly niad i "welliannau sylweddol" i'r gwasanaeth.