Sicrhau dyfodol safle'r Marine Lake yn Y Rhyl?

  • Cyhoeddwyd
ffair

Mae swyddogion wedi argymell cymeradwyo manylion cymal cyntaf datblygiad i drawsnewid hen safle ffair y Marine Lake yn Y Rhyl.

Mewn adroddiad i bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Ddinbych fore Mercher, dywedodd swyddogion yr awdurdod y dylai'r prosiect gwerth miliynau o bunnau fynd yn ei flaen.

Mae'r rhan yma o'r cynllun yn cynnwys siopau, gwesty gyda 62 o stafelloedd gwely a maes parcio.

Mae dyfodol y safle wedi bod yn ansicr ers dymchwel y ffair yn 2007, wedi i'r datblygwr gwreiddiol fynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Ond mae'r cynlluniau presennol yn llawer llai uchelgeisiol na'r rhai cychwynnol.

Ar ôl sicrhau cytundebau gyda siopa The Range, Farmfoods a Poundworld, mae cwmni Scarborough'n gobeithio croesawu'r cwsmeriaid cyntaf i'r safle erbyn y Nadolig eleni.

Y gobaith ydi creu hyd at 500 o swyddi yn y pen draw.

Mae Cyngor Sir Ddinbych eisoes wedi rhoi caniatâd cynllunio amlinellol i'r datblygiad.

Manylion terfynol rhan gyntaf y cynllun sy'n cael ystyriaeth gan aelodau'r pwyllgor cynllunio, ac mae swyddogion yn fodlon bod y manylion hynny'n dderbyniol.

Disgrifiad o’r llun,
Delwedd artist o'r datblygiad ger y Marine Lake yn y Rhyl