Cymru'n chwilio am Chef de Mission 2018

  • Cyhoeddwyd
tim gemau'r gymanwlad 2014
Disgrifiad o’r llun,
Tîm Cymru 2014 mewn seremoni ym Mae Caerdydd yn dilyn eu llwyddiant gorau erioed yn y gemau.

Mae Gemau'r Gymanwlad Cymru yn chwilio am arweinydd ar gyfer Tîm Cymru yng ngemau Awstralia yn 2018.

Gemau'r Gymanwlad Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am bob elfen o Gemau'r Gymanwlad yng Nghymru ac maen nhw'n chwilio am unigolyn a all lenwi rôl Chef de Mission.

Mae'r rôl yn ymwneud ag arwain tîm o athletwyr, hyfforddwyr, rheolwyr a staff cefnogi o Gymru i'r 21ain Gemau yn Awstralia.

Yn ogystal â bod yn frwd dros chwaraeon ac yn angerddol dros Gymru, mae gofyn hefyd am sgiliau arweinyddol a'r gallu i ysbrydoli.

Yn draddodiadol, mae'r rôl wedi cael ei llenwi gan bobl o fyd chwaraeon ond y tro hwn mae Gemau'r Gymanwlad Cymru yn chwilio yn ehangach.

Maen nhw'n awyddus i ddenu ceisiadau gan arweinyddion o bob math o gefndiroedd gan gynnwys byd busnes, diwydiant ac academia.

Ffynhonnell y llun, PA/AP
Disgrifiad o’r llun,
Enillodd y gymnastwraig Frankie Jones chwe medal yn 2014

Gwelwyd y perfformiad gorau erioed gan Dîm Cymru yn Glasgow yn 2014, ac mae Gemau'r Gymanwlad Cymru yn dweud eu bod yn disgwyl i'r Chef de Mission nesaf gydweithio gyda nhw i greu llwyfan ardderchog ar gyfer sicrhau mwy o lwyddiant fyth i athletwyr Cymreig yn y Gemau.

'Profiad bythgofiadwy'

Brian Davies oedd y Chef de Mission yn Glasgow yn 2014. Ers hynny mae wedi ei benodi yn Gyfarwyddwr Perfformiad Elitaidd gyda Chwaraeon Cymru.

"Roedd hi wir yn fraint bod yn Chef de Mission yn Glasgow," meddai. "Mae'n gallu bod yn rôl heriol ac mae llawer o gyfrifoldeb, ond mae'n rhoi boddhad enfawr yn enwedig wrth weld y tîm yn llwyddo fel y gwnaeth yn Glasgow.

"Roedd yn brofiad bythgofiadwy i mi ac rwy'n annog unrhyw un sy'n frwdfrydig dros chwaraeon ac sydd â'r gallu i arwain i wneud cais."