Corff Llansawel: Arestio trydydd dyn
- Cyhoeddwyd

Mae trydydd dyn wedi ei arestio mewn cysylltiad â marwolaeth dyn 46 oed yn ne Cymru.
Cafodd corff Kevin Barry Mahoney ei ddarganfod yn Llansawel ar 6 Ionawr.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod dyn 44 oed wedi ei arestio fore Mercher am amheuaeth o lofruddio. Mae wedi ei gadw yn y ddalfa.
Mae'r ddau ddyn arall gafodd eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Dywedodd Rob Cronick o Heddlu'r De: "Mae ein hymchwiliad yn parhau ac rydyn ni'n gweithio i ddeall yr amgylchiadau wnaeth arwain at ddarganfod corff Kevin Mahoney."
Ychwanegodd: "Cawsom ymateb dda gan y gymuned i'n hapêl ac rydyn yn apelio eto i unrhyw un sydd â gwybodaeth am ddillad neu eitemau personol Kevin Mahoney i gysylltu gyda'r heddlu."
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu ar 101, neu yn ddienw ar 0800 555111.