Carwyn Jones yn cyhoeddi rhestr fer Gwobrau Dewi Sant
- Cyhoeddwyd

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cyhoeddi'r enwau ar restr fer Gwobrau Dewi Sant 2016.
Mae'r gwobrau yn rhoi sylw i lwyddiannau pobl yng Nghymru mewn saith categori gwahanol, ac fe gafodd y seremoni wobrwyo, sydd yn ei thrydedd flwyddyn, ei chreu i gydnabod ymdrechion a chyfraniadau pobl o bob cefndir.
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: "Unwaith eto, mae teilyngwyr gwobrau Dewi Sant yn griw eithriadol o bobl. Bydd hi'n anodd dewis yr enillwyr; mae pob un ohonyn nhw'n gaffaeliad i Gymru.
"Hoffwn ddiolch i bawb a enwebodd rhywun yn y gwobrau eleni, rydych chi wedi cyflwyno pobl wych. Rwy'n edrych ymlaen at nodi'r hyn maen nhw wedi'i gyflawni yn y brif seremoni wobrwyo ym mis Mawrth."
Mae'r gwobrau wedi'u rhannu i gategorïau Dewrder; Dinasyddiaeth; Diwylliant; Menter; Arloesedd a Thechnoleg; Rhyngwladol; Chwaraeon a Pherson Ifanc.
Dewrder
Ymysg yr enwau ar y rhestr fer yn y categori Dewrder mae Peter Fuller, am iddo geisio atal ymosodiad â machete mewn archfarchnad yn yr Wyddgrug ym mis Ionawr 2015. Enw arall i gael ei enwebu yn yr un categori ydi Matthew James o Bontypridd. Defnyddiodd Mr James ei gorff i amddiffyn ei bartner, Saera Wilson, rhag bwledi yn ystod yr ymosodiad terfysgol yn Nhiwnisia yr haf diwethaf.
Yn yr un categori hefyd mae Cwnstabl Owen Davies a Chwnstabl Rhiannon Hurst, Swyddogion yr Heddlu gyda Heddlu Gwent - sydd wedi eu henwebu am eu rôl arwrol wrth helpu i achub bywydau wyth aelod o'r un teulu mewn tŷ ar dân yng Nghasnewydd.
Dinasyddiaeth
Yng nghategori Dinasyddiaeth mae Grant, June ac Owain Thomas, sydd yn godwyr arian o Oakdale. Cawsant eu henwebu am eu hymdrechion i godi arian ar gyfer elusen Cardiac Risk in the Young.
Hefyd yn yr un categori mae Janet Williams, gofalwraig maeth o Borthmadog, sydd wedi bod yn ofalwraig maeth i dros 100 o blant dros y 35 mlynedd diwethaf a sefydlu Cymdeithas Gofalwyr Maeth Gwynedd, a Dave Cooke, sylfaenydd elusen 'Operation Christmas Child' a Teams4u.
Diwylliant
Mae'r arweinydd cerddorfa Owain Arwel Hughes CBE, wedi ei enwebu am ei wasanaeth eithriadol i fyd cerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt yn y categori Diwylliant, ynghyd a'r cerddor Gruff Rhys, sydd wedi ei enwebu am fod yn 'eicon Cymreig i gerddgarwyr ar draws y byd'; ac am ei lwyddiant gyda'r Super Furry Animals a'i waith gyda Theatr Genedlaethol Cymru a Sherman Cymru.
Hefyd yn yr un categori mae Owen Sheers, y bardd o'r Fenni, wedi ei enwebu am ei waith fel bardd ac awdur.
Menter
Mae Dominic Griffiths, gwneuthurwr dyfeisiau meddygol - wedi ei enwebu yn y categori Menter, ynghyd a Dr Graham Jackson, sydd yn gadeirydd, cwmni gweithgynhyrchu bwyd sydd yn helpu elusennau lleol gan gynnwys Blind Veterans UK, Cancer Relief ac Ysbyty Plant Alder Hay.
Yn yr un categori hefyd mae'r garddwriaethwr Ian Sturrock. Mae wedi ei enwebu am ei fodel busnes unigryw o ddiogelu a gwerthu mathau o goed ffrwythau Cymreig, gwarchod garddwriaeth Gymreig a chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd o bwysigrwydd tyfu eu cynnyrch eu hunain.
Arloesedd a Thechnoleg
Geraint Davies, peiriannydd fideo - o Ynys Môn, wedi ei enwebu am ei rôl wrth ddatblygu elfen o'r ap fideo amser real, Periscope.
Tîm Digidol ONS, y Swyddfa Ystadegau Gwladol - wedi'u lleoli yng Nghasnewydd, mae'r tîm wedi eu henwebu am eu dull arloesol o adeiladu platfform newydd sy'n cyhoeddi ystadegau.
Dr Graham Foster a Dr Gareth Stockman, Cadeirydd a Chyfarwyddwr Technegol, a Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Ynni Adnewyddadwy, Marine Power Systems Ltd - wedi eu henwebu am eu gwaith o ddatblygu trawsnewidydd ynni tonnau WaveSub, dyfais ail genhedlaeth sy'n cynnig atebion i'r heriau sydd ynghlwm wrth echdynnu ynni'r tonnau.
Rhyngwladol
Yn y categori Rhyngwladol mae'r cynhyrchydd teledu o Gastell-nedd, Julie Gardner MBE. Mae hi wedi ei henwebu am ei gwaith i godi proffil cynhyrchu dramâu teledu yng Nghymru ledled y byd.
Hefyd yn yr un categori mae Dewi Rogers, arbenigwr rheoli dŵr - sydd wedi ei enwebu am ei waith fel arbenigwr ym maes rheoli dŵr sydd wedi cydnabyddiaeth ryngwladol.
Y trydydd enw ar y rhestr fer yn y maes hwn yw'r actor Matthew Rhys, sydd yn wreiddiol o Gaerdydd. Mae wedi ei enwebu am ddefnyddio ei statws i hyrwyddo Cymru a Chymreictod gartref a thramor.
Chwaraeon
Does dim syndod fod un enw amlwg yn ymddangos yn y categori Chwaraeon - ac enw Gareth Bale y pêl-droediwr rhyngwladol yw hwnnw. Mae wedi ei enwebu am ei rôl fel pêl-droediwr blaenllaw ac am helpu Cymru i gyrraedd prif bencampwriaeth am y tro cyntaf ers 1958.
Enw arall sydd ar y rhestr fer a hefyd wedi cynorthwyo Cymru i brofi llwyddiant ym myd y bel gron ydi Chris Coleman, Rheolwr Tîm Pêl-droed Cymru. Mae yntau wedi ei enwebu am ei rôl yn arwain tîm pêl-droed Cymru i'r Bencampwriaeth Ewropeaidd yn 2016.
Y trydydd enw ar y rhestr yn y categori Chwaraeon ydi Dan Biggar y chwaraewr rygbi rhyngwladol o Abertawe. Mae wedi ei enwebu am ei gyfraniad i lwyddiant Cymru ym Mhencampwriaeth Rygbi'r Byd yn 2015.
Person ifanc
Mae'r peiriannydd Sion Eifion Jones o Langadfan ym Mhowys wedi ei enwebu am ddatblygu ei sgiliau peirianyddol yn fusnes gyda'r peiriant "Ffensiwr Clyfar", sydd wedi ei enwebu ar gyfer Gwobr Arloesedd Myfyrwyr CBAC.
Mae 12 disgybl Blwyddyn 10 o Ysgol Gyfun yr Olchfa yn Abertawe wedi eu henwebu am ddyfeisio ap arloesol 'Ed Up' i helpu disgyblion TGAU i adolygu.
Ac mae Carwyn Williams, gwirfoddolwr o Landudno, wedi ei enwebu am chwyldroi ei fywyd drwy wirfoddoli. Yn ddiweddar, fe enillodd wobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn Cymru yng Ngwobrau Cenedlaethol StreetGames.