Cyhoeddi rhestr hir Gwobr Dylan Thomas

  • Cyhoeddwyd
Dylan Thomas
Disgrifiad o’r llun,
Dylan Thomas

Mae 12 o lyfrau wedi cyrraedd rhestr hir Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, sef un o'r gwobrau amlycaf i awduron ifanc.

Mae'r rhestr yn cynnwys gwaith gan bedwar awdur o'r Unol Daleithiau, nofelydd o Nigeria, bardd o Fanceinion, awdures o'r Iwerddon, a chyfrol o straeon byrion gan Gymro o Gaerffili.

Cyrhaeddodd dau o'r cyfrolau, The Fishermen gan Chigozie Obioma, a The Year of the Runaways gan Sanjeev Sahota, rhestr fer Gwobr Man Booker 2015.

Lansiwyd Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas yn 2006. Caiff y wobr gwerth £30,000 ei dyfarnu i'r gwaith llenyddol gorau sydd wedi'i gyhoeddi neu ei gynhyrchu yn Saesneg, wedi'i ysgrifennu gan awdur 39 oed neu iau.

Mae awduron adnabyddus, beirdd, hanesydd a chyfarwyddwr theatr a ffilm ymhlith panel beirniadu Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas 2016.

Dywedodd Dai Smith, cadeirydd y panel beirniadu: "Mae'r rhestr hir yn mynd tu hwnt i bob disgwyliad yn ei ystod o genres ac ansawdd syfrdanol yr ysgrifennu. Yr unig sicrwydd ar hyn o bryd yw y bydd gan y beirniaid rhestr fer eithriadol o gryf yn y pen draw, gyda chwe awdur dawnus tu hwnt."

Ychwanegodd Peter Stead, sylfaenydd a llywydd y Wobr: "Nod sefydlu Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas oedd sicrhau cyswllt Gymraeg gyda'r ffenomen fyd-eang o ysgrifennu Saesneg cyfoes, ac o'r cychwyn cyntaf, mae'r Wobr wedi denu ceisiadau o bob cyfandir. Mae hon yn mynd i fod yn flwyddyn i'w chofio, ac ry'n ni'n annog pawb i ddarllen y llyfrau arbennig yma."

Rhestr hir Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas 2016:

•Claire-Louise Bennett, Pond (Fitzcarraldo Editions)

•Garth Risk Hallberg, City on Fire (Jonathan Cape)

•Tania James, The Tusk that did the Damage (Harvill Secker [UK]; Alfred A. Knopf [US])

•Frances Leviston, Disinformation (Picador)

•Lisa McInerney, The Glorious Heresies (John Murray)

•Andrew McMillan, Physical (Jonathan Cape)

•Thomas Morris, We Don't Know What We're Doing (Faber & Faber)

•Chigozie Obioma, The Fishermen (ONE, an imprint of Pushkin Press)

•Julia Pierpont, Among the Ten Thousand Things (Oneworld)

•Max Porter, Grief is the Thing with Feathers (Faber & Faber)

•Sunjeev Sahota, The Year of the Runaways (Picador)

•Laura van den Berg, Find Me (Farrar, Straus and Giroux)

Cyhoeddir rhestr fer y Wobr ym mis Mawrth, ac fe ddatgelir yr enillydd mewn seremoni arbennig yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe ar 14 Mai, sef Diwrnod Dylan Thomas.