Dirwy o £45,000 i barc antur wedi marwolaeth bachgen

  • Cyhoeddwyd
Bailey Sumner
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Bailey Sumner-Lonsdale yn 2011

Mae cwmni sy'n rhedeg atyniad antur poblogaidd yng Ngwynedd wedi cael dirwy o £45,000 ar ôl pledio'n euog i gyhuddiad iechyd a diogelwch yn Llys y Goron Caernarfon.

Fe wnaeth cwmni Greenwood Forest Park Ltd, sydd yn rhedeg atyniad Gelli Gyffwrdd ger Bethel, Caernarfon, bledio'n euog i fethu a sicrhau diogelwch unigolyn nad oedd yn gweithio i'r cwmni.

Bydd y cwmni hefyd yn gorfod talu £64,000 o gostau.

Roedd Stephen Bristow, cyfarwyddwr Greenwood Forest Park Ltd, yn y llys ar ran y cwmni.

'Ymddiheuro'n ddiamod'

Bu farw Bailey Sumner-Lonsdale, 11 oed o Blackpool, ar ôl cael anafiadau difrifol i'w ben ar Ebrill 24, 2011 wrth iddo ddefnyddio gwifren wib yn y parc.

Clywodd y llys fod bachyn mynydd wedi cael ei roi trwy'r gadwyn anghywir ac felly ddim wedi'i gysylltu gyda'r rhaff oedd yn diogelu'r plentyn.

Dywedodd yr erlyniad fod y bachgen wedi ymweld â'r parc antur gydag aelodau o'i deulu ar y diwrnod, a'i fod wedi disgyn cryn bellter ar ôl iddo gael ei glymu'n anghywir i'r hyn gafodd ei ddisgrifio fel "cylch ffals".

Clywodd y llys nad oedd methiant yn unrhyw ran arall o'r offer, ac un waith yr oedd y cylch ffals wedi methu doedd na ddim troi'n ôl a dim byd i'w atal rhag disgyn.

Clywodd y llys hefyd fod y cwmni am "ymddiheuro'n ddiamod" i deulu Bailey a'r cyhoedd am yr hyn ddigwyddodd. Dywedodd Stephen Bristow ei fod wedi ei ymroi i sicrhau fod safonau wedi gwella ar y safle.

Cyngor Gwynedd

Yn dilyn yr achos, dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy'n arwain ar faterion Gwarchod y Cyhoedd:

"Mae hwn wedi bod yn achos anodd a chymhleth, ac fel Cyngor rydym yn anfon ein cydymdeimlad i'r teulu ac yn diolch iddynt am eu cydweithrediad trwy gydol yr ymchwiliad. Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i swyddogion y Cyngor am eu gwaith gyda'r achos.

"Yn dilyn yr ymchwiliad a'r gwrandawiad, mae'r dyfarniad yn tanlinellu'r angen i berchnogion safleoedd sicrhau diogelwch y cyhoedd bob amser."