Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i drafod iawndal esgeulustod

  • Cyhoeddwyd
Iechyd

Fe allai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr orfod talu miliynau o bunnoedd mewn iawndal am esgeulustod dros y ddwy flynedd nesaf.

Bydd y manylion yn cael eu cyhoeddi mewn adroddiad fydd yn cael ei drafod gan y bwrdd ddydd Iau.

Mae'r bwrdd iechyd yn wynebu 790 o geisiadau iawndal am esgeulustod ar hyn o bryd - 670 am esgeulustod clinigol a 120 am niwed personol.

Dywedodd y bwrdd iechyd fod pob digwyddiad oedd yn destun cais am iawndal yn cael eu hadolygu'n ofalus er mwyn cymryd camau i leihau'r risg o ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol.

O'r 670 o geisiadau y mae disgwyl i'r bwrdd eu cwblhau cyn y flwyddyn nesaf, mae 82 wedi eu diffinio fel rhai "pendant", gyda'r rhain yn cynnwys £64.9m mewn taliadau am niwed a chostau.

Taliadau

Roedd naw o'r ceisiadau am dros £1m, gyda'r mwyaf yn gais gwerth £9.6m mewn achos o anaf i'r ymennydd o achos oedi cyn cynnig gofal.

Mewn pedwar achos arall lle mae taliadau o £1m yn debygol, fe wnaeth oedi arwain at barlys yr ymennydd.

Roedd 37 o geisiadau wedi eu diffinio fel rhai "tebygol", ag yn ymwneud a thaliadau gwerth £24.9m.

Roedd un cais am esgeulustod clinigol yn ymwneud â chlaf oedd wedi disgyn gartref. Daeth meddygon i'r canlyniad nad oedd asgwrn wedi torri yn y goes ar ôl adolygu lluniau pelydr-x, er nad oedd y claf yn gallu sefyll ar ei thraed.

Bedair wythnos yn ddiweddarach fe wnaeth meddygon ddarganfod fod asgwrn wedi torri yng nghoes y claf.

Mae uchafswm o £25,000 wedi ei osod ar daliadau iawndal y bwrdd iechyd ymhob achos, gyda'r gweddill yn dod o yswiriant y Gronfa Risg Gymreig.