Canolfan feddyginiaeth i agor yn uned frys ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Brenhinol MorgannwgFfynhonnell y llun, Chris Hodcroft

Bydd canolfan feddyginiaeth yn agor ger drws ysbyty yn Rhondda Cynon Taf i leddfu'r pwysau ar yr adran frys.

Y gobaith yw y bydd gwasanaeth meddyginiaeth Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant yn darparu diagnosis cynt a lleihau amseroedd aros.

Bydd yn cael ei leoli ger mynedfa'r adran frys fel y gall cleifion gael gofal cyn gynted â phosib.

Fe fydd y gwasanaeth yn cael ei staffio trwy'r dydd a nos gan ddoctoriaid a nyrsys.