Costau claddfeydd sbwriel yn gostwng 22% yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae'r arian sydd wedi'i wario ar gladdfeydd sbwriel gan gynghorau Cymru wedi gostwng dros 22% yn y pedair blynedd diwethaf.
Mae ffigyrau yn dangos bod cyfanswm pwysau sbwriel wedi gostwng o 641,000 tunnell yn 2012/13 i 450,000 tunnell yn 2014/15 - gostyngiad o 30% mewn tair blynedd.
Ers 2011/12, mae'r gost flynyddol wedi gostwng o dros £59m i £46m.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y wlad yn "parhau i arwain y ffordd yn y DU".
Gwahaniaethau
Tra bo'r rhan fwyaf o gynghorau wedi torri eu bil claddfeydd sbwriel ers 2011/12, mae rhai wedi gweld eu costau yn aros ar yr un lefel, neu hyd yn oed yn codi.
Fe gynyddodd bil Sir Conwy 26.8% dros y cyfnod, gyda Gwynedd yn codi 18% a Sir Ddinbych 7%.
Dywedodd y tri awdurdod mai cynnydd mewn treth claddfeydd sbwriel oedd ar fai - dim cynnydd mewn sbwriel.
Torfaen lwyddodd i dorri costau fwyaf (89%) tra bo Blaenau Gwent (80%) a Sir Benfro (62%) wedi torri costau'n sylweddol hefyd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o ailgylchu 58% o wastraff erbyn eleni, gyda'r ffigyrau diweddaraf yn cael eu cyhoeddi fis nesaf.
Mae saith awdurdod eisoes wedi cyrraedd y targed.
Mae'r gyfradd yng Nghymru yn cymharu'n ffafriol â Lloegr (43.7%), a tharged yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y DU ydi 50% erbyn 2020.
Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod y ffigyrau yn dangos bod Cymru wedi cadarnhau ei lle fel "arweinydd ar draws y byd" am reoli gwastraff.
"Mae gwaith nawr yn parhau i sicrhau bod pob cyngor yn gallu dal ati i gyrraedd targedau uchelgeisiol, gyda'r nod o leihau gwastraff claddfeydd sbwriel i ddim mwy na 5% o gyfanswm gwastraff Cymru erbyn 2024/25."