Diogelu plant Dyfed Powys: Gwelliannau a methiannau
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi gwneud gwelliannau yn y ffordd mae'n diogelu plant, ond mae'n parhau i fethu mewn rhai mannau, yn ôl adroddiad.
Mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi (HMIC) wedi cyhoeddi adroddiad ar ôl arolygiad o waith diogelu plant gan y llu, yn dilyn adroddiad cychwynnol ym mis Rhagfyr 2014.
Yn yr adroddiad ôl-arolygiad gafodd ei gyhoeddi ddydd Iau, dywedodd arolygwyr eu bod yn hapus bod y llu yn parhau i ymrwymo i ddiogelu plant a'u bod wedi gwella eu cofnod o achosion.
Ychwanegon nhw fod nifer y staff sy'n gweithio ar y math yma o achosion wedi cynyddu a bod y llu wedi gwella wrth fynd i'r afael â phobl sydd wedi bod yn cam-drin plant.
Ond mae'r adroddiad yn feirniadol nad yw'r llu wedi gwneud y gwelliannau sydd eu hangen wrth gynnal profion meddygol amserol mewn achosion o gam-drin rhyw.
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi nad yw'r llu yn archwilio cyfrifiaduron a dyfeisiau eraill yn amserol, a bod rhai achosion yn cael eu hymchwilio gan swyddogion sydd heb yr hyfforddiant priodol.
Roedd beirniadaeth hefyd bod y llu yn cadw plant yn y ddalfa dros nos heb reswm, a bod gwaith cofnodi yn y ddalfa o safon isel.
'Problem cymhleth'
Wrth ymateb i feirniadaeth yr arolwg, dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod cynnal profion meddygol yn "broblem cymhleth" sy'n ddibynnol ar asiantaethau eraill a phaediatregwyr ar draws Cymru.
Ychwanegodd y llu mai "achosion llai cymhleth" sy'n cael eu trin gan staff sydd ddim yn arbenigol, a bod pryderon diogelwch plant yn cael eu rheoli gan staff arbenigol.
Dywedodd bod staff y ddalfa wedi eu hyfforddi i sicrhau mai dim ond pan fod angen yr oedd plant yn cael eu cadw, a bod darpariaeth llety addas i blant sy'n cael eu cadw yn y ddalfa yn destun arolwg.
Dywedodd Arolygydd Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi, Wendy Williams: "Ers ein hymweliad diwethaf, mae'n amlwg bod Heddlu Dyfed Powys wedi gwella rhai gwasanaethau sy'n hanfodol i ddiogelu plant.
"Mae'r gwelliannau yma'n galonogol, ond mae dal angen gwelliannau i nifer o wasanaethau.
"Mae'r oedi mewn nifer o wasanaethau - fel profion meddygol ac archwilio dyfeisiau cyfrifiadurol - yn parhau i danseilio ymchwiliadau.
"Hefyd, er bod gostyngiad yn nifer y plant sy'n cael eu cadw yn y ddalfa oherwydd iechyd meddwl, rhaid i'r llu leihau'r cyfanswm sy'n cael eu cadw yn y ddalfa dros nos."
'Pryderus iawn'
Wrth groesawu'r adroddiad, dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Dyfed Powys, Christopher Salmon: "Bydd plant a phobl ifanc bregus pob tro yn flaenoriaeth i mi.
"Mae mwy o welliannau i ddod, yn cynnwys gwasanaeth newydd sy'n rhoi help arbenigol i blant a phobl ifanc sy'n cael eu hadrodd ar goll."
Dywedodd NSPCC Cymru eu bod â phryder mawr am y methiannau sy'n cael eu hamlygu yn yr adroddiad.
"Tra bo rhai gwelliannau, mae hi'n glir bod mwy o waith i'w wneud ac ry'n ni'n parhau yn bryderus iawn am rai o ddarganfyddiadau'r arolygwyr," meddai llefarydd.