Chwe Gwlad: Holl gemau Cymru'n fyw ar S4C
- Cyhoeddwyd

Bydd S4C yn darlledu pum gêm Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn fyw yn yr iaith Gymraeg.
Dywedodd y sianel eu bod wedi sicrhau cytundeb gyda'r BBC ac ITV ddydd Mercher i ddarlledu'r gemau.
S4C fydd yr unig sianel yn y DU fydd yn dangos pob un o gemau Cymru yn y bencampwriaeth yn fyw.
Cafodd ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2015 y bydd hawliau'r gemau yn cael ei rannu rhwng y BBC ac ITV am y tro cyntaf o eleni am y chwe blynedd nesaf.
Dywedodd S4C mai'r prif gyflwynydd ar gyfer y bencampwriaeth fydd Gareth Roberts a bydd y tîm yn cynnwys chwaraewyr rhyngwladol fel Dwayne Peel, Dafydd Jones, Deiniol Jones ac Andrew Coombs.
Gohebydd Rygbi BBC Cymru, Gareth Charles a chyn-gapten Cymru, Gwyn Jones fydd yn y blwch sylwebu.
'Balch iawn'
Dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys: "Mae'r Bencampwriaeth RBS Chwe Gwlad yn un o'r cystadlaethau chwaraeon mwyaf yn y calendr blynyddol ac rydym yn falch iawn ein bod yn gallu rhoi sylw i gemau Cymru yn Gymraeg.
Ychwanegodd Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, Siân Gwynedd: "Rydym yn hynod o falch y gall BBC Cymru barhau i ddarparu darllediadau byw o holl gemau Cymru ar gyfer S4C gyda'r cytundeb newydd yma, ac mae ein timau cynhyrchu profiadol yn edrych ymlaen at gynnig darllediadau Cymraeg o'r safon uchaf i gynulleidfaoedd ledled Cymru."
Gemau Cymru yn Y Chwe Gwlad
Iwerddon v CYMRU - Dydd Sul, 7 Chwefror (Stadiwm Aviva, Dulyn, 15:00)
CYMRU v Yr Alban - Dydd Sadwrn, 13 Chwefror (Stadiwm Principality, 16:50)
CYMRU v Ffrainc - Dydd Gwener, 26 Chwefror (Stadiwm Principality, 20:05)
Lloegr v CYMRU - Dydd Sadwrn, 12 Mawrth (Twickenham, 16:00)
CYMRU v Yr Eidal - Dydd Sadwrn, 19 Mawrth (Stadiwm Principality, 14:30)