Deg allan o ddeg?
- Cyhoeddwyd

Pa mor dda y'ch chi gyda Mathemateg? Yn ddiweddar ar Cymru Fyw bu'r Dr Gareth Evans, o Adran Fathemateg Ysgol y Creuddyn, yn trafod pam na ddylwn ni fod ofn y pwnc.
Er mwyn eich helpu ymhellach i ddeall y rhifau, yr onglau a'r llythrennau algebra 'na, mae gwefan addysg BBC Bitesize wedi cyhoeddi cyfres o bosau tebyg i'r rhai sydd yn rhaid i ymgeiswyr arholiad Mathemateg Rhifedd TGAU eu datrys.
Nos Fawrth 26 Ionawr bydd Ifan Evans, cyflwynydd C2 BBC Radio Cymru yn ceisio datrys y detholiad o gwestiynau sydd i'w gweld isod. Gewch chi well hwyl arni na Ifan? Rhowch gynnig arni!
1. Arian tramor
Mae Tia yn mynd i'r biwro cyfnewid arian ac yn newid £150 am 386 o ddoleri Awstralia.
Cyfrifa faint o ddoleri Awstralia mae hi'n eu cael am bob £1.
A: 2.60 doler Awstralia
B: 2.57 doler Awstralia
C: 0.39 doler Awstralia
2. Graffiau
Mae'r graff yn dangos lefel y dŵr mewn bath dros gyfnod o amser. Beth mae rhan B yn ei ddangos?
A: Mae person yn mynd i mewn i'r bath
B: Mae'r gwasgedd ar y tapiau'n cael ei droi i lawr
C: Mae'r tap poeth yn cael ei droi i lawr
3. Canrannau
Mae ffermwr yn prynu tractor am £23,900. Mae'n dibrisio ar gyfradd o 8% o'i werth ar ddechrau bob blwyddyn. Faint yw ei werth ar ôl tair blynedd?
A: £30,107.12
B: £21,988
C: £18,610.64
4. Arwynebedd arwyneb a chyfaint
Mae gan y terariwm hwn sail sgwâr a hyd 8cm, ac mae ei uchder yn 12 cm. Mae pob ochr drionglog yr un maint.
Os yw'r planhigion sydd y tu mewn yn llenwi 132cm³, faint o ofod gwag sydd y tu mewn?
Cofia: Cyfaint pyramid = ⅓ × arwynebedd y sail × uchder
A: 124cm³
B: 636cm³
C: 256cm³
5. Fformiwlâu
Mae cwmni Llyfrau Llion yn defnyddio'r un fformiwla i brisio pob darn o waith argraffu.
Cost = Nifer y llyfrau x cost fesul llyfr + £1,000
Beth ydy cost argraffu 200 o lyfrau pan fydd pob llyfr yn costio £6?
A: £1,200
B: £2,200
C: £6,200
6. Cyllid y cartref
Mae Freya angen morgais o £100,000 ond nid yw hi'n gallu penderfynu a ddylai hi ei gymryd am 20 mlynedd neu 30. Faint fyddai hi'n arbed trwy gymryd morgais allan am 20 mlynedd yn hytrach na 30?
A: £174,000
B: £234,000
C: £60,000
7. Mapiau
Mae Greg yn ystyried gwneud gwaith ar ei dŷ. Mae pensaer yn paratoi'r cynlluniau canlynol iddo.
Y raddfa ar y cynlluniau yw 1:200.
Mae Greg yn mesur bod hyd estyniad y to ar y cynllun yn 2cm - pa mor hir fydd e mewn bywyd go iawn?
A: 2m
B: 4m
C: 20m
8. Cyllid personol
Mae Lexi yn cynilo ar gyfer set o wersi gyrru a fydd yn costio £300. Mae hi wedi penderfynu buddsoddi ei harian mewn cyfrif cynilo sy'n talu cyfradd o 8% AER.
Mae'n penderfynu buddsoddi £250 mewn cyfrif cynilo am 2 flynedd a thynnu'r arian allan pan fydd yn cael ei phen-blwydd yn 17 oed. Faint fydd Lexi wedi ei gynilo?
A: £20
B: £290
C: £291.60
9. Newid canrannau
Mewn lle bwyta tapas, mae'r holl brisiau'n cael eu dangos cyn ychwanegu TAW 20%. Beth yw cyfanswm cost y pryd bwyd uchod, gan ddefnyddio'r fwydlen a'r eitemau a gafodd eu harchebu?
A: £28.26
B: £23.55
C: £23.88
10. Pythagoras
Dwi'n carpedu ffenestr bae gan ddefnyddio sgwariau carped sy'n mesur 0.8m x 0.8m.
Beth yw perimedr y lle â charped?
A: 5.46m
B: 1.13m
C: 5.73m
Sut hwyl gawsoch chi? Dyma'r atebion:
1. Arian tramor
Ateb = B 2.57 doler Awstralia
I ganfod £1, rhanna 386 â 150. Cofia dalgrynnu arian i ddau le degol bob amser.
2. Graffiau
Ateb = A Mae person yn mynd i mewn i'r bath.
Mae'r llinell yn fwy serth, sy'n dangos bod lefel y dŵr yn cynyddu ar gyfradd gyflymach nag o'r blaen. Byddai hyn yn awgrymu bod rhywbeth yn cael ei ychwanegu yn hytrach na'i gymryd oddi yno.
3. Canrannau
Ateb = C £18,610.64.
Mae angen tynnu 8% oddi ar y gwerth ar ddechrau'r flwyddyn am dair blynedd, neu drwy luosi'r pris gwreiddiol â 0.923.
4. Arwynebedd arwyneb a chyfaint
Ateb = A 124cm³
Cyfaint pyramid = ⅓ × arwynebedd y sylfaen × uchder = ⅓ × 8 × 8 × 12 = 256cm³
Tynna gyfaint y planhigion i ganfod y gofod gwag.
5. Fformiwlâu
Ateb = B £2,200
Mae angen amnewid y gwerthoedd cywir a chofio lluosi cyn adio.
6. Cyllid y cartref
Ateb = C £60,000
Cofia ddod o hyd i'r gwahaniaeth rhwng y ddau forgais.
7. Mapiau
Ateb = B 4m
Yn gyntaf, lluosa â'r ffactor graddfa: 2cm x 200 = 400cm. Yna rhaid newid i fetrau trwy rannu â 100: 400/100 = 4m.
8. Cyllid personol
Ateb = C £291.60
£250 x 1.08 x 1.08 = £291.60
9. Newid canrannau
Ateb = A £28.26
20% o'r cyfanswm (£23.55) yw £4.71, ar ôl adio hwn at y bil, cawn gyfanswm cost o £28.26.
10. Pythagoras
Ateb = A 5.46m
I ddod o hyd i hyd y croeslin mae'n rhaid i ti ddefnyddio theorem Pythagoras: √(0.8² + 0.8² ) = 1.1314
Nesaf tyrd o hyd i'r perimedr:
P = 0.8 + 0.8 + 0.8 + 0.8 + 1.1314 + 1.1314 = 5.46 cm (i ddau le degol).