Llanrwst: Cosbi criw am gynnal partïon swnllyd
- Cyhoeddwyd

Mae criw o bobl fu'n codi twrw gan wneud bywyd trigolion yn Nyffryn Conwy yn boen wedi eu cosbi.
Mae cymdeithas dai Cartrefi Conwy wedi sicrhau gorchymyn llys yn erbyn chwech o unigolion am gynnal partïon swnllyd ar stad Glanrafon yn Llanrwst.
O ganlyniad i'r mesur, mae hanner y grŵp fu'n rhan o'r nosweithiau hwyr wedi eu gwahardd o'r stad 66 eiddo.
Bydd yn rhaid i'r tri arall, sy'n byw yno, addo ymddwyn yn briodol gan beidio achosi rhagor o helynt.
Mae hi'n bosib i'r rheiny sy'n torri'r gorchymyn llys gael eu harestio a'u cymryd i'r llys, sydd â'r pŵer i'w carcharu am hyd at ddwy flynedd.
'Newid positif'
Dywedodd Jan Jones, Rheolwr Gwrth-Gymdeithasol Cartrefi Conwy, eu bod wedi cael sylwadau cadarnhaol gan drigolion y stad wedi'r gorchmynion.
"Rydym yn parhau i gadw golwg ar y sefyllfa ac mae'n wych clywed ei fod wedi gwneud newid mor bositif i bobl sy'n byw yno," meddai.
Dywedodd bod "sŵn cerddoriaeth a gweiddi" wedi arwain at arestio unigolion yn y gorffennol.
Ychwanegodd: "Beth oedd hefyd yn niwsans oedd bod caniau alcohol a photeli gwag yn cael eu taflu dros y balconi i eiddo cyfagos.
"Dyma hyn yn arwain at nifer o gwynion gan gymdogion ac fe benderfynom weithredu'n gyflym i atal rhagor o broblemau."