Tabledi i wella S4C

  • Cyhoeddwyd
Reed Hastings:Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Reed Hastings: "Mae teledu confensiynol yn debyg i'r ceffyl cyn i'r car gael ei ddyfeisio. Roedd yn dda, ond mae hwn yn well, a dyna pam y bydd teledu confensiynol wedi diflannu erbyn 2030"

Mae ffigyrau newydd asiantaeth ymchwil Childwise yn awgrymu bod pobl ifanc, am y tro cyntaf, yn gwylio mwy o deledu ar eu tabledi neu declynnau symudol nac ar setiau teledu.

Mae'r ymchwil hefyd yn awgrymu bod yna gynnydd o 50% mewn blwyddyn yn nifer y plant oedd yn berchen ar dabledi cyfrifiadurol a bod y rhan fwyaf ohonyn nhw yn gwylio sioeau ar wasanethau ffrydio fel Netflix yn amlach na sianeli traddodiadol.

Oes y teledu ar ben?

Yn ddiweddar aeth Reed Hastings, cadeirydd cwmni Netflix, mor bell â darogan y byddai teledu ar-lein yn lladd sianeli teledu confenisynol erbyn 2030.

Felly a fydd sianeli teledu, a'r amserlen ddarlledu draddodiadol, yn diflannu'n llwyr? Os felly, fydd yr arferiad cynyddol i wylio ar alw'n elwa neu'n lladd sianel fel S4C?

Mae Hywel Wiliam yn gyfarwyddwr cwmni ymgynghori Advisors in Media (AIM), ac er ei fod o'r farn bod newid amlwg yn y gwynt, mae'n dweud fod y sefyllfa'n bell o fod yn sicr.

"Mae nifer y munudau o deledu confensiynol sy'n cael eu gwylio'n ddyddiol gan unigolion wedi gostwng, a phan edrychwch chi ar wahanol oedrannau, mae'r darlun yn fwy clir," meddai.

"Mae cyfran gwylio pobl dros 55 oed wedi aros yn eithaf cyson tra bod yna gwymp o 23% wedi bod yng nghyfran gwylio'r bobl sydd rhwng 16-35.

"Felly, mae'r defnydd o wylio ar alw yn tyfu'n raddol, ond rwy'n credu y bydd yn carlamu o hyn ymlaen oherwydd gwelliannau yn y gwasanaeth band eang a'r ffaith syml y bydd mwy o bobl yn medru gwylio fideo ar lein oherwydd y gwelliannau 'ma, a newidiadau technegol yn y teclynnau ry'n ni'n eu defnyddio i wylio rhaglenni teledu.

Disgrifiad o’r llun,
Hywel Wiliam

Arloesi

"Mae S4C wedi arloesi drwy ddatblygu gymaint o blatfformau â phosib drwy ddarlledu ar loeren, cebl, ac ar-lein ar Clic a nawr ar yr iPlayer. Maen nhw wedi arloesi ac arbrofi trwy dargedu pobl ifanc yn bennaf a dangos rhai rhaglenni a chreu cynnwys ar-lein ac mae'n bwysig fod nhw'n parhau i wneud hyn."

Yn ogystal â newid sylfaenol mewn patrymau gwylio, mae'r esgid fach yn gwasgu i'r darlledwyr - gan gynnwys S4C. Mae Hywel Wiliam yn cydnabod bod yna her fawr yn wynebu'r sianel ond mae'n credu bod yna gyfleoedd hefyd:

"Mae'r sialens i S4C wedi bod yn un anodd. Er enghraifft, roedd yn rhaid iddyn nhw ddileu eu gwasanaeth manylder uwch (HD), Clirlun, am resymau ariannol. Nawr mae'n rhaid iddyn nhw ddarganfod ffyrdd o gael eu cynnyrch allan i'r gynulleidfa yn y ffordd fwyaf deniadol phosibl.

"Rwy'n credu y gall y symud i wylio ar-lein helpu yn fan hyn. Os gymerwch chi gostau darlledu'r rhaglenni allan o'r swm, yna falle bydd modd i S4C ddarlledu ar fanylder uwch drwy iPlayer, Netflix a nifer o'r llu o wasanaethau eraill sydd yn bodoli.

"Bydd hyn hefyd yn eu galluogi nhw i ddarlledu eu cynnyrch dros Brydain ac yn wir dros y byd. O greu cynnwys sydd ag apêl ryngwladol fel cyngherddau clasurol, neu ddramâu, mae 'na gyfleoedd i S4C gynyddu ei chynulleidfa.

"Mae'n bwysig cofio fod S4C wedi mwynhau llwyddiant rhyngwladol, ac mae cyfres 'Y Gwyll' eisoes yn cael ei ddarlledu gan Netflix. Felly bydd lot yn dibynnu ar ansawdd cynnyrch S4C yn y dyfodol."

Disgrifiad o’r llun,
Mae 'na gynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy'n gwylio S4C ar y we trwy gyfrwng BBC iPlayer a gwasanaeth Clic y sianel

Dyw hi ddim yn gyfrinach bod nerth ariannol sylweddol cwmniau fel Netflix ac Amazon yn eu galluogi i gynhyrchu cyfresi drama o ansawdd uchel. Ydy'r datblygiad yma yn mynd yn ei gwneud hi'n anoddach i gynhyrchiadau fel 'Y Gwyll' gystadlu yn y dyfodol?

Mae Ed Thomas, cynhyrchydd a chyfarwyddwr cwmni Fiction Factory sy'n cynhyrchu 'Y Gwyll', yn ffyddiog:

"Mae amrywiaeth helaeth o raglenni yng nghatalog y cwmnïoedd hyn. 'Dyn nhw ddim yn canolbwyntio yn unig ar y cynyrchiadau mawr costus, maen nhw'n deall pwysigrwydd apelio at farchnad niche.

"Fel cwmni, mae'n siŵr bod Fiction Factory yn ffitio'n gyfforddus i'w marchnad niche nhw. Felly, rwy'n hynod falch ein bod ni, ar yr un platfform, ac yn cystadlu, gyda 'House of Cards', sy'n costio rhyw £2-3 miliwn yr awr, a galla'i ddweud wrthoch chi, mae'r Gwyll yn costio lot llai na 'na!"

Ond mae Ed Thomas yn cydnabod bod trwch o wylwyr ffyddlon S4C ddim wedi gwneud y naid i wylio yn gyson ar-lein:

"Mae'n bwysig cofio bydd cynulleidfa graidd wastad yna - y rhai sy'n pigo a dewis eu cynnwys o un ffynhonnell ac fe fydden nhw'n parhau i wneud.

"Gyda hyn mewn golwg, efallai byddai nawr yn gyfnod i ail ddiffinio beth yw pwrpas a gweledigaeth S4C ynglŷn â'u cynulleidfa graidd.

"Mae 'na beryg yn hynny hefyd gan fod y gynulleidfa graidd yn tueddu i fod yn bobl hŷn. Mi allai hyn olygu bod nifer o raglenni sy'n cael eu comisiynu yn targedu'r gynulleidfa hŷn.

"Bydde hynny yn ei gwneud hi'n anoddach i werthu cynnwys Cymraeg i Netflix a chwmnïoedd eraill ar hyd a lled y byd."

Disgrifiad o’r llun,
'Y Gwyll': Mae'r Ditectif Prif Arolygydd Mathias yn raddol ddod yn wyneb cyfarwydd i gynulleidfaoedd ar hyd a lled y byd diolch i Netflix , ac am lawer llai na £3 miliwn yr awr!

Pwysigrwydd iPlayer?

Mae Hywel William yn credu bod gan S4C fantais fawr yn barod wrth i'r tirwedd darlledu newid:

"Mae Netflix yn awyddus i dorri'r cysylltiad rhwng y rhai sydd yn gwneud rhaglenni a'r rhai sydd yn eu darlledu, ond o safbwynt Netflix, mae hyn yn wendid hefyd.

"Nid nhw yw'r unig gwmni fydd yn medru cario rhaglenni, ac yn wir mae BBC iPlayer yn llawer mwy poblogaidd ar hyn o bryd.

"Os yw'r tueddiad i wylio ar-lein yn parhau yna mae gan S4C fantais fawr fel cynhyrchydd rhaglenni, gan fod y sianel ar iPlayer, platfform mwyaf poblogaidd Prydain.

"Mae llawer i fod yn bositif amdano, a dyna sut y dylen ni, fel gwylwyr ac S4C fel darlledwr, symud ymlaen i'r dyfodol."

Disgrifiad o’r llun,
Ai dyma sut y byddwn ni i gyd yn gwylio S4C erbyn 2030?