Tagfeydd yr M4 yn 'codi cywilydd' - cadeirydd y CBI

  • Cyhoeddwyd
plaut
Disgrifiad o’r llun,
Mike Plaut

Byddai'r tagfeydd ar yr M4 yn "codi cywilydd" ar bobl o gyfnod Oes Fictoria, meddai cadeirydd newydd y CBI yng Nghymru.

Dywedodd Mike Plaut bod cystadleuwyr yn "chwerthin" ar yr arafwch o adeiladu'r ffordd osgoi o gwmpas Casnewydd.

Mynnodd hefyd bod angen i wleidyddion o bob plaid edrych ar syniadau newydd.

"Un o'r problemau mwyaf yw isadeiledd," meddai Mr Plaut. "Rydych yn ceisio cael pobl dda, busnesau, ond rydych yn aros mewn ciw ger Pont Hafren gan dalu £6.60 i ddod mewn, mae'n hen ffasiwn iawn.

"Yna mae'n rhaid i chi stopio ger twneli Brynglas i fynd drwodd... mae fel Oes Fictoria... mi fyddai'n codi cywilydd arnyn nhw."

Dywedodd bod prosiect Metro De Cymru yn un hir dymor a'i fod yn edrych yn dda ar bapur ond mai'r M4 ddylai fod y flaenoriaeth.

Fe gyfeiriodd hefyd at broblemau gyda'r A55.

"Mae dau draean o allforion Cymru yn ddibynnol ar yr M4 - does yna ddim dewis arall," ychwanegodd Mr Plaut.

"Pwy arall yn y byd a fyddai'n cael eu prif arteri wedi ei rwystro mewn dau le fel ni? Mae fel cyflawni hunanladdiad mewn termau diwydiannol."