Cynllun £500m i adfywio Abertawe 'yn creu 1,700 o swyddi'
- Cyhoeddwyd
Beth i'w ddisgwyl yn Abertawe
Mae BBC Cymru yn deall y bydd tua 1,700 o swyddi parhaol yn cael eu creu oherwydd datblygiad gwerth £500m yng nghanol dinas Abertawe.
Dyma'r cynllun mwyaf i newid yr ardal ers yr Ail Ryfel Byd a'r gred yw bod y cynlluniau yn cynnwys canolfan adloniant, gwesty pum seren, traeth dinesig ac ardal fwyta.
Hefyd bydd arena gyda 3,500 o seddi ac acwariwm gwerth £40m.
Mae dau gwmni adeiladu wedi cael eu dewis - Rivington Land and Acme a Trebor Developments - ac mae disgwyl i'r gwaith ddechrau yn gynnar yn 2017.
Y gred yw y bydd y gwaith adeiladu yn creu 500 o swyddi.
Mae penaethiaid y cyngor eisiau sicrhau bod Abertawe yn gallu denu miloedd o dwristiaid a darparu cyfleusterau ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau aros yn ddinas ar ôl graddio.
Y brif ran fydd yn cael ei datblygu fydd canolfan siopa Dewi Sant, tir yn agos i'r ganolfan hamdden a'r ganolfan ddinesig.
Mae disgwyl i Ffordd y Brenin gael ei throi'n ardal fusnes ac mae hen safle clwb nos Oceana wedi cael ei ystyried yn gartref newydd i'r cyngor.
Mae gwaith ar yr Heol Fawr ger yr orsaf drenau ar fin dechrau ei ail gyfnod ailddatblygu ac mae cynlluniau ar waith ar gyfer Sgwâr y Castell a Stryd y Gwynt.
Dywedodd arweinydd cyngor Abertawe, Rob Stewart: "Abertawe sydd wrth galon economi'r rhanbarth yma.
"Mae hyn yn golygu miloedd o swyddi newydd. Mae'n golygu adfywio economi'r ardal.
"Rydyn ni eisiau stopio pobl rhag sefydlu busnesau mewn llefydd eraill. Os gallwn ni gael y gefnogaeth iawn a'r amgylchiadau iawn fe fyddan nhw'n sefydlu eu canolfannau ac aros yma."
'Cyffrous'
Ychwanegodd bod llawer o waith i'w wneud ond bod hwn yn gyfnod "cyffrous", a dywedodd mai'r traeth fyddai un o brif rannau'r datblygiad.
"Rydyn ni'n rhoi'r safle yma yn ôl i bobl Abertawe," meddai. "Mae wedi ei ddefnyddio gan y cyngor ers 40 o flynyddoedd.
"Gall pobl fynd yna, eistedd ac edrych ar un o'r baeau gorau yn y byd. Mae'n golygu pobl yn byw, gweithio, bwyta a mwynhau'r promenâd."