Sir Fynwy'n dathlu ei Chymreictod wrth groesawu'r Brifwyl

  • Cyhoeddwyd
Elfed Roberts a Peter Fox
Disgrifiad o’r llun,
Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, ac arweinydd Cyngor Sir Fynwy, Peter Fox, yn lansio'r ymgyrch yr wythnos ddiwethaf

Mae pobl Sir Fynwy yn cael eu hannog i wisgo coch i ddathlu eu Cymreictod ar Ddydd Santes Dwynwen, wrth i'r sir baratoi i groesawu'r Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd staff y cyngor, plant ysgol a nifer o bobl eraill yn gwisgo'r lliw, yn trafod eu cariad tuag at Gymru ac yn dathlu diwylliant Cymraeg y sir ddydd Llun

Mae nifer o ddigwyddiadau wedi eu trefnu hefyd i godi arian tuag at yr Eisteddfod gyntaf yno ers 103 o flynyddoedd.

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau yn cael ei chynnal ar gyrion Y Fenni o 29 Gorffennaf - 6 Awst eleni.

Cefnogaeth i'r 'Steddfod

Mae'r cyngor wedi trefnu bod 30 o ysgolion yo bob cwr o'r sir yn gwisgo rhywbeth coch ac yn cynnal gweithgareddau er mwyn dangos eu cefnogaeth i'r Eisteddfod.

Bydd Ysgol Gynradd Brynbuga yn cynnal gweithdai i ddysgu disgyblion am ddiwylliant Cymraeg trwy gerddoriaeth a dawnsio.

Nid dim ond ysgolion Sir Fynwy yn unig fydd yn dathlu'r digwyddiad, gydag ysgolion Cymraeg Ysgol Bryn Onnen ac Ysgol Gyfun Gwynllyw yn Nhorfaen yn cymryd rhan.

Bydd staff ym mhump o swyddfeydd Cyngor Mynwy yn gwisgo siwmperi, sgarffiau a hetiau coch, tra bydd tîm addysg oedolion y sir yn annog disgyblion a thiwtoriaid i ddathlu gyda bara brith a chacennau gri.

Fe fydd côr Cil-y-coed yn gwisgo coch ar gyfer eu hymarfer, tra bo'r dylunydd gemwaith Debbie Lewis o Frynbuga - sy'n dylunio coron yr Eisteddfod eleni - hefyd yn gwisgo coch yn ei stiwdio.

Disgrifiad o’r llun,
Bydd y maes ryw ganllath yn unig o ganol Y Fenni

Dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts: "Mae dros 100 mlynedd wedi pasio ers i'r Eisteddfod ymweld â Sir Fynwy, felly mae llawer o ddiddordeb ymysg y gymuned leol ein bod ni'n dychwelyd.

"Wrth gwrs, mae llawer o waith codi ymwybyddiaeth leol i'w wneud dros y misoedd nesaf er mwyn sicrhau bod pawb yn derbyn gwybodaeth am sut ŵyl yw'r Eisteddfod erbyn heddiw, a'r ffaith ei bod yn cynnig rhywbeth i bawb.

"Mae brwdfrydedd y cyngor wedi bod yn arbennig, nid yn unig wrth arwain ar yr ymgyrch hon ond drwy gydol y broses gydweithio.

"Mae gennym griw hynod weithgar o wirfoddolwyr yn yr ardal hefyd sydd wrthi ers dros flwyddyn yn trefnu gweithgareddau a digwyddiadau i godi arian ac ymwybyddiaeth ac rydym yn ddiolchgar iawn iddyn nhw am y gefnogaeth."

'Cyffro'n cynyddu'

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, Peter Fox: "Dim ond chwe mis sydd i fynd tan Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cylch ac mae'r cyffro yn cynyddu gyda llawer o ddigwyddiadau codi arian ar y gweill.

"Mae ein hymgyrch yn canolbwyntio ar Ddydd Santes Dwynwen a'i nod yw annog cynifer o bobl ag sydd modd i ddathlu eu cariad at Gymru yn ogystal â'i ddiwylliant.

"Cafodd groeso brwdfrydig yn barod ac edrychwn ymlaen at orchuddio'r sir a thu hwnt mewn pob math o goch."