Cyflwyno adolygiad i ysgol arbennig ym Mhenarth
- Cyhoeddwyd

Mae adolygiad wedi ei gynnal i'r gwaith mewn ysgol anghenion arbennig newydd wedi i bryderon godi gan aelodau staff ynglŷn a'r ffordd mae'r ysgol yn cael ei rheoli.
Cafodd yr arolwg i Ysgol-y-Deri ym Mhenarth ei gomisiynu yn haf 2015 gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro a Chyngor Bro Morgannwg.
Mae ffynonellau wedi dweud wrth BBC Cymru fod morâl staff yno'n isel, bod dryswch ynghylch yr arweinyddiaeth a diffyg cysondeb i ddisgyblion.
Y rheswm am yr anghysondeb yw bod angen galw ar staff gyflenwi i ddirprwyo dros absenoldeb.
Pennaeth ymchwiliadau cyfieithwyr Eversheds, Peter Watkin Jones, oedd yn arwain yr adolygiad.
Bu hefyd yn gyfrifol am ymchwiliad Ymddiriedolaeth Sefydledig Canol Swydd Stafford yn dilyn pryderon i gyfradd marwolaethau mewn ysbyty yno.
Canfyddiadau
Cafodd ei ddarganfyddiadau a'i argymhellion eu cyflwyno i lywodraethwyr yr ysgol nos Fercher, gyda staff hefyd yn cael gwahoddiad i wrando ar y canfyddiadau.
Daeth yr adolygiad i'r casgliad bod angen gwella'r cydweithio o fewn yr ysgol.
Mae'r rheiny yn cynnwys protocolau rheolaeth ac arolygiaeth gan ddatblygu "mwy o sianelau agored o gyfathrebu rhwng y timau".
Fe agorodd Ysgol-y-Deri yn Hydref 2015, gan ddod a disgyblion o Ysgol Ashgrove ac Ysgol Erw'r Delyn ym Mhenarth at ei gilydd yn ogystal ag Ysgol Maes Dyfan yn y Bari.
Mae 242 o ddisgyblion yno ar hyn o bryd.
Ar y cyd gydag Ysgol St Cyres, mae'n rhan o Gymuned Ddysgu Penarth. Mae'r ysgol yn darparu ar gyfer plant o dair oed i 19, sydd ag anghenion dysgu, ac anableddau dysgu corfforol a meddyliol.
Fe gadarnhaodd llefarydd ar ran Cyngor Bro Morgannwg fod yr adolygiad wedi ei gynnal "ar ôl i faterion gael eu codi ynghylch pa mor dda oedd y timau o'r tair ysgol wedi uno a pha mor effeithiol oedd yr ysgolion gwahanol, yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd yn cydweithio gyda'i gilydd".
Absenoldeb uchel
Mae'r BBC ar ddeall fod nifer uchel o absenoldeb salwch, gyda hyd at un rhan o bump o'r gweithle o 230 o staff yr ysgol i ffwrdd ar unrhyw gyfnod ers ei hagor.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Dydyn ni methu datgelu'r union ffigwr ar gyfer absenoldeb salwch ond....fe allwn gadarnhau bod y lefel absenoldeb salwch yn uwch yn Ysgol-y-Deri na mewn ysgolion eraill yn y sir.
"Fodd bynnag, mae'n werth nodi bod Ysgol-y-Deri yn achos arbennig a bod y staff sy'n gweithio yn yr ysgol yn cefnogi'r addysg, iechyd a lles plant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth iawn, felly mae cymharu gydag ysgolion eraill yn ddiffygiol ar y gorau."
Dywedodd Tim Excell, cadeirydd llywodraethwyr Ysgol-y-Deri: "Mae'r ysgol, cyngor a staff y Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am iechyd a lles disgyblion Ysgol-y-Deri.
"Mae'r adolygiad yn amlygu yr heriau y rydym yn wynebu drwy geisio dod a thîm aml-ddisgyblaethol a oedd yn arfer gweithio mewn tair ysgol arbennig wahanol."