Cartrefi gofal Sir Ddinbych: Ymgynghoriad yn dod i ben
- Cyhoeddwyd

Mae Dolwen yn Nimbych a Chysgod y Gaer yng Nghorwen yn ddau o'r cartrefi dan sylw
Un diwrnod sydd ar ôl i drigolion Sir Ddinbych leisio eu barn ar ddyfodol cartrefi gofal a chanolfannau ar gyfer pobl hŷn.
Mae ymgynghoriad cyhoeddus yn para nes ddydd Sul ar gynlluniau i gau cyfleusterau sy'n cael eu rhedeg gan y cyngor a hynny er mwyn torri costau, a rhoi blaenoriaeth i wariant ar ofal cymdeithasol yn y gymuned.
Mae'r canolfannau dan sylw yng Nghorwen, Dinbych, Rhuthun a'r Rhyl.
Fe allai'r cyngor drosglwyddo'r canolfannau i ofal cyflenwr allanol er mwyn arbed tua £700,000.